Bob bore ar fy ffordd i'r gwaith 'rwy'n cerdded trwy'r parc tu 么l i Gastell Caerdydd. Amser i fyfyrio a meddwl cyn cychwyn ar waith y dydd.
Lili wen fach
Bore ddoe dyma weld sawl lili wen fach wedi bwrw eu pennau trwy'r pridd. Cyn hir bydd yna garpedi gwyn yn llanw'r borderi - y cyfan yn ein hatgoffa bod Gwanwyn ar ei ffordd, a thywydd oer a garw'r gaeaf yn araf sleifio yn 么l i'w gornel tywyll.
'Roedd ddoe hefyd yn ddiwrnod cyntaf Y Grawys, gair a'i wreiddiau yn y Lladin am y deugeinfed dydd cyn y Pasg a'r Saesneg Lent yn dod o'r Almaeneg cynnar, lenz; gair yn golygu 'hyd' neu 'hir' a gair sydd hefyd yn gysylltiedig 芒'r gwanwyn a'i ddyddiau hirach.
Beth fynna'r Grawys?
Fel anghydffurfiwr da dydw i erioed wedi talu rhyw lawer o sylw i'r Grawys ond ddoe, wrth weld y lili wen fach yn gwthio trwy'r pridd ar ddydd cyntaf yr 诺yl fedrwn ni ddim llai na meddwl y dylwn.
Ac efallai mai da o beth fyddai inni gyd wneud hynny!
Beth fynna'r Grawys oddi wrthym? Ein bod yn rhoi amser i fyfyrio a bod yn llonydd - i'r Cristion golyga hyn ymbaratoi ar gyfer y Pasg ond mae angen i bob un, boed ffyddiwr neu anffyddiwr, arafu a chael trefn ar ein meddyliau, penderfynu beth yw blaenoriaethau bywyd.
Mynna'r Grawys hefyd ein bod yn cynorthwyo'r anghenus, yn rhoi elusen.
Ar ei gorau
Gwelwyd Cymru ar ei gorau yn Neuadd Dewi Sant Nos Lun diwethaf yn cefnogi ymdrechion Cymorth Cristnogol i gynorthwyo pobl Haiti. Hyd yn oed yng nghanol ein sefyllfa economaidd gyfredol rydym ar ben ein digon a chynnig y Grawys gyfle i ni gofio am yr holl fendithion a ddaw i'n rhan.
Yn olaf, estyn y Grawys gyfle inni roi heibio ein trachwantau a'n blys am bethau materol bywyd, boed hynny yn siocled, yn arian, yn fwyd neu ddillad.
O lili wen fach
O ble daethost ti?
Do, fe fentraist allan trwy'r hin aeafol i'n hatgoffa bod y gwanwyn ar gerdded a thywydd gwell rownd y gornel.
Cyfle yw'r Grawys i ni ail asesu ein blaenoriaethau er sicrhau gwell yfory i bawb ar yr hen blaned yma.