大象传媒

Gwedd ifanc

Miriam O'Reilly

gan Branwen Niclas
Bore gwener, Chwefror 19 2010

Gadawodd Miriam O'Reilly yr ysgol yn 17 oed gyda'r uchelgais o fod yn newyddiadurwraig.

Dringodd yr ysgol yrfa a bu'n gweithio gyda'r 大象传媒 am 25 mlynedd yn gynhyrchydd a chyflwynydd newyddion - yn fwyaf diweddar fel llais a wyneb Farming Today, Panorama a Countryfile.

Yna, ddiwedd 2008 penderfynodd y 大象传媒 ailwampio Countryfile. Dywedwyd wrth Miriam O'Reilly nad oedd bellach yr 'angen' am ei gwasanaeth hi ar y rhaglen ar ei newydd wedd, na thair o gyflwynwyr benywaidd eraill yn eu 40au a'u 50au.

Teimlodd Miriam O'Reilly ei bod wedi cael ei gwthio o'r neilltu oherwydd ei hoedran a hynny pan yn 52 oed.

Mae'r 大象传媒 yn gwadu'r honiad. Ond y mis hwn cyflwynodd Miriam bapurau i dribiwnlys cyflogaeth dan y gred eu bod wedi camwahaniaethu ar sail rhyw ac oedran.

Ffrae arall

Datblygodd ffrae arall llynedd pan newidiwyd y beirniaid ar y rhaglen Strictly Come Dancing. Roedd y ffigurau gwylio'n isel, a phenodwyd beirniad dawnsio benywaidd newydd oedd 30 mlynedd yn iau na'r un blaenorol.

Awgrymodd Harriet Harman, y Gweinidog Cydraddoldeb mewn datganiad yn Nh欧'r Cyffredin bod gwahaniaeth ar sail oed ynghlwm wrth y penderfyniad.

Derbyniodd ITV gwynion hefyd wedi iddyn nhw benodi cyflwynwraig ar gyfer rhaglen This Morning oedd 24 mlynedd yn iau na'r cyn gyflwynydd Fern Britton.

Codi cwestiwn

A yw gwadu r么l arweiniol ac awdurdodol ar y sgrin i wragedd aeddfed yn deg?

A yw'n effeithio ar wylwyr iau sydd wrthi'n ffurfio barn, yn arbennig merched ifanc sy'n creu dyheadau am eu dyfodol?

Ydi o'n gyrru neges tybed nad yw rhywun yn werthfawr na llwyddiannus ar 么l rhyw oedran arbennig?

A yw'n arwain at gysyniad pellach nad oes gan wragedd h欧n gyfraniad gweladwy i'w wneud i gymdeithas?

A yw'r byd teledu Cymraeg yn wahanol tybed?

Neu oes ffys am ddim byd yn cael ei wneud? A bod nifer y cyflwynwyr teledu o oed arbennig yn gyfartal, beth bynnag eu rhyw?

Cyfrwch faint o gyflwynwragedd aeddfed welwch chi ar y teledu dros y penwythnos a'u cymharu 芒 nifer y dynion h欧n ar y sgrin!


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.