Ras y cyrris gorau
Cyhoeddwyd enwau'r ugain bwyty Indiaidd fydd yn brwydro am deitl T欧 Bwyta Cyri'r Flwyddyn 2010 yr wythnos diwethaf.
Yn 么l yr adroddiad, roedd 200 o dai bwyta Indiadd Cymru wedi derbyn pleidlais gan y cyhoedd. "Bu'r ymateb gan y cyhoedd yn anhygoel," meddai un o drefnwyr y gystadleuaeth.
Y cam nesaf yn y gystadleuaeth fydd trosglwyddo'r cyfrifoldeb i'r beirniaid rhanbarthol ymweld 芒'r ugain bwyty - nid i gyd yr un wythnos gobeithio!! - gan flasu'r hyn sydd ganddynt i'w gynnig.
Un datblygiad newydd eleni yw gofyn i'r ugain bwyty gynnwys cennin mewn cyrri ar eu bwydlenni.
Rydw i yn hoff iawn o ambell gyrri, ond nid yn ofnadwy o fentrus mae arnai ofn! Person Korma ydw i gan adael y Vindalooos i'r bobol ddewr!
Bydd yn ddiddorol iawn blasu pryd bwyd Indiaidd 芒 chennin ynddo
Cawl cennin
Ychwanegu cennin er mwyn rhoi blas ar fwyd a wnawn fel arfer. Mae'n si诺r gen i y bydd 'na Gawl Cennin yn berwi mewn sawl cegin yng Nghymru dros y penwythnos nesaf wrth inni baratoi i ddathlu G诺yl ein Nawddsant, Dewi.
Ystyrir Cawl Cennin yn bryd bwyd traddodiadol y Cymru a gellir olrhain y gair 'cawl' yn 么l i'r bedwaredd ganrif ar ddeg!
Er bod gwahanol fathau o gawl, eto, ni ellir, yn fy marn i, ragori ar fased berw o gawl cennin, gyda thafell o fara a darn o gaws yn gwmni iddo.
Ie, da yw cael blas ar fwyd, pa fwyd bynnag yw e, ac o ba gyfandir bynnag y daw.
Ond nid bwyd yw'r unig beth y mae arnom angen blas arno. Mae cael blas ar fyw, a chael blas ar fywyd yr un mor bwysig.
Mae na ddigon o bethau yn diflasu bywyd ac yng nghanol y pethau di-flas mae gofyn inni chwilio am y pethau hynny sy'n rhoi blas.
Gweithredoedd da
Mae pob gweithred o ddaioni a phob arwydd o gariad yn rhoi blas ar fywyd.
I'r rhai ohonom sy'n agos at Iesu fe gredwn y gallwn drwy ffydd, ysbrydolrwydd, daioni, llawenydd a chariad gael blas arbennig ar fywyd.
Tydi a wnaeth y wyrth o Grist Fab Duw,
Tydi a rhoddaist inni flas ar fyw...