Wela i a'n llygad bach i, rhywbeth yn dechrau ag "C".
- Coed? - Wel, falle, dy nhw ddim wedi blaguro eto ody nhw? Ma nhw'n foel o hyd. Na, nid coed, treia eto.
- Ceir? - Wel, mae digonedd o rheiny abwyti'r lle, ond na, nid dyna oedd ar y meddwl i.
- Cwmwl? - Oes, mae na gwmwl yn yr awyr a does dim un wedi bod yn ddiweddar oes e, y tywydd yn fendigedig o ffein. Treia eto!
- Cath? - O, edrycha ar honna, mae'n un fach bert yn dyw hi? Na, trueni, cynnig da.
- Ci te? - Maen nhw a'u perchnogion mewn trwbl y dyddiau hyn, yn d欧n nhw? Wyt ti'n meddwl y bydd angen 'swiriant ar y perchnogion i gyd am fod rhai c诺n yn ffyrnig ac yn ymladd ac yn ymosod? Na, nid ci, treia eto.
- Corryn? - Does dim pry cop fan hyn. Wyt ti'n bod yn ddwl nawr.
Wel, beth yw e te? Wyt ti'n dewis rhai rhy galed i fi.
Ond maen nhw abwyti'r lle i gyd, wyt ti'n ddall neu rywbeth?
Wy ddim yn mynd i chwarae 'da ti eto. Beth yw e?
Wel Camera wrth gwrs, maen nhw abwyti'r lle ymhob man. Degau ar ddegau ohonyn nhw, ym mhob twll a chornel. Gwena, rwyt ti ar y camera, mewn awyrle, gorsaf, bws, siop, wrth grwydro'n ddidaro o ffenest i ffenest.
Er ein lles?
Paid 芒 bod yn paranoid, er dy les di maen nhw.
Paid ti 芒 bod mor ddiniwed a na茂f, maen nhw hyd yn oed mewn ysgolion!
Beth? Gad dy gelwydd!
Ma nhw'n gwylio plant ar yr iard, yn dal eu sgyrsiau nhw a'u symudiadau nhw. Mae o leiaf ugain camera yn y rhan fwyaf o ysgolion uwchradd.
Wyt ti'n ei gor-ddweud hi nawr.
Wel, ma fe'n digwydd yng ngogledd-orllewin Lloegr a dyw'r plant ddim yn gwybod.
Odi hwnna'n gyfreithlon?
Wy ddim yn gwybod, mond dweud 'tho ti ydw i.
Wel, wy ddim yn mo'yn whare rhagor. Wela ti cyn bo hir. Hwyl!