大象传媒

Codi peisiau

gan Lona Roberts
Bore Gwener, Mawrth 26 2010

Wy moyn ichi lunio poster newydd sbon i fi - i groesawu pobol i'r ynysoedd hyn.

Rhywbeth trawiadol ar gyfer y meysydd awyr a'r porthladdoedd, rhywbeth bachog sy'n cyfleu bywyd fel ag y mae e yma. Wyddoch chi'r math o beth, does dim eisiau i fi ymhelaethu, oes e?

Ceffyl ar garlam

Ar gyfer Lloegr, mae eisiau iddo fe gynnwys ceffyl ar garlam, un sydd wedi dengid, a thu 么l iddo fe ddrws stabl yn sownd ar gau.

Wedyn, ar gyfer Abergwaun a Chaergybi ac awyrle Rh诺s, t欧 bach handi ond bod y bais neu'r trowser wedi'i dwyno'n barod! Iawn?

Gweld poenydio

Wedi'r holl wadu i'r gwrthwyneb, dros fisoedd maith, fe wyddom ni nawr fod yr awdurdodau wedi bod yn dyst i boenydio annynol, eu bod nhw wedi defnyddio tystiolaeth gafwyd trwy benyd greulon mewn celloedd ymhell oddi yma, yn Affghanistan, Morocco a Bae Guantanomo.

Nawr, 芒'r ceffyl ar garlam a'r bais yn wlyb diferol, rhaid paratoi cyfarwyddiadau newydd i'r gwasanaethau cudd. A ninnau mor ddilychwin!

Mae'r sustem dreuliau i aelodau seneddol wedi'i chamddefnyddio, fe gawson nhw arian mawr, maen nhw wrthi'n cau drws gwichlyd y stabl - y ceffyl ar garlam a'u dillad yn wlyb sop.

Tynnodd sawl plismon eu rhifau oddi ar ysgwyddau eu hiwnifforms adeg protest fawr yn Llundain ychydig n么l.

Gallen nhw blismona yn fwy hyderus wedyn, yn fwy bygythiol.

Bu plismyn eraill yn archwilio a chlywais i fod drws y stabl i'w gau yn dynnach nawr - bod row a chystwyo wedi bod ac, unwaith eto clywch, mae gwell cyfarwyddyd i'w baratoi ar gyfer y brotest nesaf.

Yr esgus

Y gymdeithas sydd wedi newid, dyna ddywedir wrtho ni dro ar 么l tro, fel esgus dros fihafio treisgar yr awdurdodau.

O, felly ni y cyhoedd sy ar fai ife?

Ry'm ni'n na茂f, odyn, ry'n ni'n hawdd ein twyllo, ac ambell dro yn grac ar 么l ffeindio mas.

Does na ddim byd arall i wneud, oes e, ond cau drws y stabl yn sownd a chodi pais?


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.