Ynni newydd a hen
Mae dau gwmni ynni wedi cyhoeddi dymuniad i adeiladu gorsaf b诺er niwclear newydd ar Ynys M么n. Y nod fyddai codi Wylfa B erbyn 2020 gan greu cannoedd o swyddi.
Bydd cais cynllunio yn cael ei wneud erbyn 2012 ond mae Llywodraeth y Cynulliad yn parhau i wrthwynebu codi atomfa newydd yng Nghymru gan fynegi fod "yna dipyn o ffordd i fynd cyfiawnhau i'r cyhoedd sut mae trin gwastraff niwclear."
Hen safle
Beth bynnag ddaw o gynlluniau Wylfa B braf clywed am egni newydd yn dod i safle hanesyddol.
Bydd melin dd诺r sydd wedi ei lleoli yn Amgueddfa Maes-glas ger Treffynnon, Sir y Fflint, yn gweithio am y tro cyntaf ers dros gant o flynyddoedd gan gynhyrchu deg megawat o drydan y flwyddyn - digon ar gyfer dau d欧 arferol.
Yn 么l rheolwr y safle bydd y cynllun hefyd yn helpu addysgu pobl ifanc am ynni adnewyddol.
Rhyfedd meddwl y bydd yr olwyn yn defnyddio d诺r o ffynnon Treffynnon - yr union un a gafodd ei defnyddio gan fynachod o Abaty Dinas Basing er mwyn malu 欧d yn yr unfed ganrif ar ddeg.
Yna, yn ystod y Chwyldro Diwydiannol roedd yr un d诺r yn ffynhonnell bwysig wrth i weithfeydd newydd gael eu sefydlu yn yr ardal.
Efallai mai maint yr alwad am fwy o ynni i gadw'n ffyrdd presennol o fyw sydd yn ein gorfodi i edrych y tu draw i'r dulliau ynni adnewyddol a fu tuag at b诺er niwclear.
Wynebu bywyd
Wrth i'n gwlad benderfynu y ffordd ymlaen braf meddwl fod ambell i olwyn hynafol yn troi unwaith eto a chyfle newydd i ddefnyddio yr hen ffynonellau.
Ar 么l y gaeaf hir, a ninnau yn chwilio am ryw egni newydd i wynebu bywyd, bydd cyfle dros y Pasg i ystyried ambell i hen ffynnon ysbrydol a a all gadw ein holwynion ninnau i droi drwy ail ddarganfod y gwir ynni adnewyddol.