Galw etholiad
Wel, yn 么l y disgwyl, mi glywsom ni ddoe fod dyddiad yr Etholiad Cyffredinol nesaf wedi cael ei gadarnhau, ac erbyn y chweched o Fai mi fydd pawb ohonom yn cael ein hannog i ddefnyddio ein pleidlais a dewis un o nifer o ymgeiswyr.
Yn eu hawydd i sicrhau eich ffyddlondeb, mi fyddan nhw'n ceisio eu gorau i'ch darbwyllo mai nhw ydi'r gorau a bod ganddyn nhw rywbeth i'w gynnig i chi sydd naill ai'n unigryw, neu'n rhagori ar yr hyn y gall eu cystadleuwyr ei gynnig.
Yn barod, mae gan bob un ohonyn nhw bobl chwim eu meddwl ar waith, yn ceisio llunio sloganau bachog i ddenu eich sylw chi fel mai nhw y byddwch chi'n eu dewis.
Y cystadleuwyr
Beth am i ni gael golwg ar rai o'r cystadleuwyr? Dyna i chi'r gleision, y ffefrynnau medd rhai, yn addo y gwna nhw arbed arian i chi gyda'r slogan "Mae pob mymryn yn cyfrif".
Dyna i chi eu cystadleuwyr pennaf nhw wedyn yn addo eu bod nhw'n "Eich helpu chi i arbed arian bob dydd".
Mae'r rhai oren yn eich cymell chi i "roi cynnig ar rywbeth newydd heddiw", tra bod y melynion yn addo dod 芒 "dewis ffres i chi".
Honiad un arall yn y ras ydi eu bod nhw "yn dda i bawb".
Mae'n si诺r eich bod chi wedi sylwi erbyn hyn mai s么n am archfarchnadoedd oeddwn i, yn hytrach na phleidiau gwleidyddol.
Faint o wahaniaeth?
Ond onid ydi'r gymhariaeth yn eithaf teg? Tybed faint o wahaniaeth gwirioneddol sydd yna erbyn hyn rhwng plaid a phlaid, neu siop a siop?
Onid cuddio eu natur gyffredin y mae'r cyfan ohonyn nhw y tu 么l i sloganau bachog, gan addo'r byd ar un llaw ond yn ein siomi ni ar y llaw arall?
Am bob cynnig hanner pris, 'prynu un, cael un arall am ddim' ac ati, onid ydi hi'n anorfod y bydd pris rhywbeth arall yn codi er mwyn sicrhau nad ydyn nhw eu hunain ar eu colled?
Yr her fwyaf
Efallai mai'r her fwyaf i ni yn ystod yr ymgyrch etholiadol hon fydd ceisio gweld y tu hwnt i'r sloganau a gweld beth maen nhw'n ei gynnig o ddifrif i ni.
Os ydyn nhw wirioneddol am i ni 'roi cynnig ar rywbeth newydd' er mwyn 'ein helpu ni i arbed arian bob dydd', onid oes gofyn iddyn nhw wneud mwy na dim ond chwarae ar eiriau a dangos yn ddiamwys lle maen nhw'n sefyll?
Does dim ond gobeithio y cawn ni fis lle bydd gwleidyddion yn siarad yn blaen, yn chwarae'n deg, ac yn ymdrechu o ddifrif i fod 'yn dda i bawb', yn hytrach na dim ond gofalu am eu buddiannau eu hunain.
Dyna fyddai 'dewis ffres' o ddifrif.