Mae nifer o gyrsiau ar gael i gyflwyno'r Ffydd Gristnogol mewn ffordd gynhwysfawr a dealladwy. Yn eu plith mae'r cwrs Alffa, Cwrs Emaus a Darganfod Cristnogaeth.
Dwi'n dechrau cwrs Darganfod Cristnogaeth mewn dau bentre' yr wythnos nesa; pentre' Peniel, lle dwi'n byw a phentre' Llanpumsaint, lle dwi'n weinidog.
Er mwyn hysbysebu'r cyrsiau hyn dwi wedi argraffu posteri a flyers a rhoi hysbysebion yn y papur bro a'r papur lleol wythnosol.
Yn ogystal, mae rhai o ffyddloniaid yr achos a minnau wedi bod yn cerdded y strydoedd a'r heolydd yn cnocio ar ddrysau ac yn gwahodd pobl yn bersonol i ddod i ddarllen y Beibl, a hynny, yn y Gymraeg.
Mae'r ymatebion wedi bod yn amrywiol iawn. Dyma ddetholiad.
- "What do you want?"
- "Pam na wnewch chi e'n Saesneg er mwyn i bawb ddeall?"
- "Dwi lawer rhy fisi!"
- "Sori, dim diddordeb."
- "Dwi'n mynd i'r eglwys yn barod."
- "Dwi lawer rhy hen."
- "Dwi'n symud i ffwrdd!"
- "Diw'n Gymraeg i ddim digon da, rwy'n siarad half and half!"
Ond, dwi wedi cael cyfle hefyd i siarad 芒 phobl a gwrando arnynt wrth fynd o ddrws i ddrws.
Mae rhai wedi rhannu gofidiau ac eraill wedi dangos gwerthfawrogiad a chefnogaeth.
Dwi wedi eistedd gyda phobl, sefyll yn yr ardd i edmygu'r rhychau tato, holi am enwau tai a thrafod tynged y gwenyn.
Er fy mod yn gobeithio ac yn gwedd茂o y bydd pobl yn dod i ddilyn y cwrs Darganfod Cristnogaeth, rwy'n sylweddoli bod yn rhaid i bobl ddarganfod Crist ynof fi.
Mae'n bosibl na fydd llawer yn dod i ddarllen y Beibl ond maent yn fy narllen i bob dydd, a phob Cristion arall sy'n arddel ffydd yn Iesu.
Daw geiriau un pennill o'r emyn Dod ar fy mhen i'r cof:
Dod i mi galon well bob dydd, A'th ras yn fodd i fyw
Fel bo i eraill drwof fi, Adnabod cariad Duw.