大象传媒

Y ddadl fawr

Clegg, Cameron a Brown

gan Anna Jane Evans Bore Gwener, Ebrill 16 2010

Wedi'r wythnosau o heip, dyma ni, neithiwr yn ista i wylio'r sioe dyngedfennol. Chawsom ni ddim byd mor danllyd 芒 llosgfynydd Gwlad yr I芒 gan fod pob gair ac ystum wedi ei ymarfer ac yn ei le'n daclus.

Rhoi marciau?

Wn i ddim faint ohonom aeth ati i wylio efo'n cardiau bingo'n barod i hapchwarae ar eiriau ac ymadroddion rhwydd ein harweinwyr. Wn i ddim, chwaith, faint ohonom aeth ati i roi marciau i'r tri ohonynt yn 么l sawl gwaith - os o gwbl - y llwyddont i wneud inni chwerthin, neu sawl tro wnaethon nhw wylltio neu sniffio neu edrych ar eu horiawr.

Mae'n rhaid bod y straen arnynt yn aruthrol - ond does fiw iddynt chwysu achos, ych a fi, pwy sa'n pleidleisio drostynt wedyn!

Syndod i mi na fyddai'r cwmn茂au sy'n creu'r cemegau i atal chwys wedi manteisio mwy ar y cyfle marchnata oedd ar bl芒t iddynt neithiwr!

treulio'r cyfan

Mi gawn ni wythnos arall, r诺an, i dreulio'r cyfan - gyda'r newyddion yn ailadrodd unrhyw sylwadau bachog a lwyddodd i godi gw锚n, neu unrhyw lambastiad geiriol a barodd wg neu fudandod eu gwrthwynebydd.

Yn si诺r i chi, mi fydd y tri arweinydd yn treulio oriau bwygilydd yn ymarfer ar gyfer yr ornest nesaf gyda'r arbenigwyr body language a delwedd yn ceisio'u cymhwyso i'n hudo a denu'n pleidlais.

Y sylw i gyd ar ddelwedd unigolion a'u hymadroddi slic. Y ffaith fod rhywun yn gwneud camgymeriad neu'n llithro mewn unrhyw ffordd yn cael ei chwyddo a'i gorddi i mewn i'n meddyliau ni gan y cyfryngau.

Delwedd a brand

Ai dyna yw democratiaeth, felly? - delwedd a brand yn ennill pleidlais a grym?

Gwell gen i ddilyn cyngor amserol rhyw saer coed o Nasareth ddwy fil o flynyddoedd yn 么l - gochelwch rhag gau-broffwydi sy'n dod atoch yng ngwisg defaid ond sydd, o'u mewn yn fleiddiaid rheibus! Gwatsiwch gael eich brathu wedyn!


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.