Nos Lun diwethaf, bum yn cadeirio noson o hustings Cristnogol yng Nghaerfyrddin. Menter ar y cyd oedd hon rhwng nifer o eglwysi'r dre er mwyn gofyn i'r ymgeiswyr seneddol fynegi barn ar faterion moesol a chrefyddol.
Roedd dipyn o waith wedi bod yn trefnu'r noson o flaen llaw:
- Cytuno ar drefn y noson
- Gwahodd ymgeiswyr
- Hysbysebu'r noson
- Gwahodd cwestiynau ar bapur o flaen llaw.
- Trefnu lluniaeth ysgafn
Braf oedd gweld y Festri yn llawn gyda dros 70 o bobl yn awyddus iawn i wrando ar atebion yr ymgeiswyr oedd yn gobeithio ein denu i roi croes gyferbyn 芒'u henwau.
Dechreuodd y noson gyda phob plaid yn cael cyfle i gyflwyno ei hunan mewn dwy funud yn unig. Roedd hyn yn dipyn o her a bu rhaid imi chwythu'r chwiban ar bron bob un, gyda'r geiriau'n dal i lifo!
Yna, cafwyd cyfle i ofyn cwestiynau o baratowyd ymlaen llaw. Doedd yr ymgeiswyr ddim yn gwybod beth oedd yn dod ac roedd yn ddiddorol iawn eu gweld yn ceisio ateb y cwestiynau.
Dyma rai o'r cwestiynau
- A ydych yn meddwl bod hawliau cyfartal yn golygu bod Cristnogion yn cael eu cau allan o fywyd cyhoeddus?
- A ddylai fod yn drosedd i ddweud fod gwrywgydiaeth yn bechod?
- Beth ydych am ei wneud i ddelio 芒 phroblem cam ddefnydd o gyffuriau yn ein cymdeithas?
- Beth bynnag yw eich barn bersonol chi, pan ddaw'n bleidlais yn Nh欧'r Cyffredin, a oes rheidrwydd arnoch i ddilyn chwip y blaid?
Mae'n amhosibl - ac efallai'n annheg - s么n am yr atebion a gafwyd ond gallaf eich sicrhau i'r noson fod yn un hynod o werthfawr.
Mae 'na bethau sy'n ofid i bobl sydd yn arddel ffydd a'n cyfrifoldeb ni yw mynegi'r pryderon hyn yn gyhoeddus.
A ble'n well nag mewn hustings Cristnogol? Dyw hi ddim yn rhy hwyr eto i chi drefnu un yn eich ardal chi.