Oeddech chi'n gwybod mai'r mosgito ydi'r creadur mwyaf peryglus yn y byd? Er bod gan y siarc mawr gwyn 300 o ddannedd a'i fod yn gallu nofio bum gwaith yn gyflymach na ni dim ond rhyw ugain o bobl fydd yn cael eu lladd ganddynt bob blwyddyn.
Dros filiwn
Mae'r mosgito bach di-nod, ar y llaw arall, yn gyfrifol am ladd mwy na miliwn o bobl yn flynyddol gan eu bod yn cario afiechydon fel malaria.
Mae hi mor hawdd dibrisio'r pethau bychain yn dydi - roedd lludw m芒n y llosgfynydd yn ddigon i'n llorio ni am wythnos, rhannu'r atom lleiaf oedd y cam mwyaf dinistriol a gymerodd y ddynoliaeth erioed - a dani di clywed Aled Jones Williams yn disgrifio dinistr Hiroshima'n effeithiol tu hwnt yr wythnos yma'n barod - a dyma'r mosgito, un o greaduriaid lleiaf ein byd ni yn cario afiechyd sy'n un o'r lladdwyr mwyaf - yn 么l amcangyfrifon bydd person yn marw o malaria bob 30 eiliad - felly dyna ddau deulu arall mewn galar ers imi ddechrau siarad.
Y pethau mawr
Canolbwyntio ar y pethau mawr dani'n licio wneud - a chanfod esgusodion yn amlach na pheidio dros beidio gwneud y pethau bychain.
Mae hi bron yn lecsiwn - rhag ofn nad oeddech chi wedi sylwi! - ond er ein bod yn fodlon anfon byddinoedd dramor i ymladd a lladd dros be da ni'n ei alw'n ddemocratiaeth eto mae'r mwyafrif ohonom yn dibrisio'r syniad o fynd allan i bleidleisio a defnyddio hynny o ddemocratiaeth sy'n eiddo i ni!
Rhy ddi-hid
Yr eirioni mwyaf ydi'r esgus fod y gwleidyddion i gyd yn ddihirod - ond dyna nhw'n cadw'u seddau am ein bod ni'n rhy ddi-hid i godi oddiar ein penolau a dangos y drws iddynt 芒'n pleidlais!
Anogaeth y Dalai Lama ydi - "Os ydych chi'n teimlo eich bod yn rhy fychan i wneud gwahaniaeth, triwch gysgu efo mosgito!"
Ond mae'n hen bryd i chi godi erbyn hyn!