Mater o ddewis
Wel, mae'r holl siarad a pherswadio a cheisio ein denu sut i bleidleisio bron ar ben, a bydd etholwyr gwledydd Prydain Fawr yn dewis y llywodraeth nesaf.
Y gair 'dewis' y mae pawb ohonom wedi ei glywed dro a'r 么l tro ers cychwyn yr ymgyrch a chyn hynny, sy'n symbylu fy neud i am heddiw.
Trwy'r holl s么n am ddewis yr wythnosau diwethaf, mae llinellau o emyn William Williams Pantycelyn yn mynnu dod i flaen y cof, 'Rwy'n dewis Iesu a'i farwol glwy,
Yn frawd a phriod i mi mwy.
Ef yn arweinydd ef yn ben.
Sylfaen pob dewis
Hoffwn rannu hefo chwi heddiw bod y dewis yna o Iesu yn arweinydd ac yn ben mewn bywyd yn sylfaen pob dewis arall.
Dyma sylfaen ein dewis o'r gwerthoedd yr ydym yn eu harddel o ddydd i ddydd, sef gwerthoedd sy'n symbylu gwasanaeth a chonsyrn am eraill ac am gyflwr y byd yr ydym yn byw ynddo.
Yn fwy byth cyfle i ddewis Iesu'n ffordd o fyw. Dewis y ffordd mae Iesu yn ei ddysgu a'i ddangos trwy esiampl a gweithredoedd, gwasanaethu a pharchu safonau byw, sy'n sylfaen onestrwydd ac esiampl.
Wrth ethol y llywodraeth nesaf dewis yr ydym rai sydd a'u bryd i fod yno er mwyn gwasanaethu ac nid i'w gwasanaethu, a dyna'r gwir am nifer uchel o rai sy'n llywodraethu yn genedlaethol a lleol, a mawr yw ein dyled iddynt ers cenedlaethau.
Gosod cyfrifoldeb arnom
Felly, mae'r dewis Cristnogol yn gosod arnom gyfrifoldeb i ddefnyddio y cyfle i bleidleisio dydd Iau pa blaid bynnag yr ydym yn ei gefnogi - dyna yw democratiaeth Gristnogol - a chofiwn cymaint a frwydrodd ein tadau a'n mamau a'n teidiau a'n neiniau am y rhyddid i bleidleisio.
Bendith ar y dewis.