Ceidwad y goleudy
Pan oeddwn i'n fychan - roeddwn i isio bod yn geidwad goleudy.
Ia, gewch chi chwerthin am y syniad. Wn i ddim ai rhamant y lluniau o'r tonnau neu'r syniad o fod ar eich pen eich hun yn glyd uwchlaw'r weilgi oedd yn apelio.
Yr eironi heddiw ydy nad oes 'na bellach bobl o gwbl yn byw yn y goleudai ond fe fydda i yn dal i ddotio atyn nhw o Dalacre i Benmon, o Enlli i'r Mwmbwls.
Goleuo'r ffordd
Mae cofio hynny yn dwyn i gof fy hoffter o luniau o oleudai hefyd - mae gan Dave Newbould lun o oleudy Ynys Lawd yn wincio'i oleuni, wedi ei ddal ar yr eiliad dyngedfennol - a'r is-bennawd,"Goleuo'r Ffordd".
Fe fydda i'n dotio hefyd at eiriau Emyr Huws Jones Ceidwad y Goleudy ac mi brynais i'r Geiriau Mewn Ffr芒m yn ddiweddar yng Nghaernarfon.
I mi, gall y gerdd s么n am gyfaill, am gymar neu am Dduw. Rydan ni i gyd isio ambell i geidwad goleudy yn ein hanes yn does?
Wedyn mae rhywun yn cofio geiriau Iesu: "Myfi yw goleuni'r byd." ac yn arbennig hefyd yn Mathew, y chwyldroadol, "Chwi yw goleuni'r byd", sef ninnau bob un.
Wrth y drws yn curo
A chofio gweld wedyn lun Holman Hunt o 1904 yn Abaty Sant Paul, Llundain. Dach chi'n cofio'r llun - Nid Crist ymwthiol sydd yma fel bob amser ond Crist sy'n disgwyl amdanom os agorwn y drws iddo.
Rhaid i ninnau agor y drws o'r tu fewn achos does 'na ddim handlen ar y tu allan. Mae O wastad yno yn cynnig y goleuni yn y lamp.
Tros y canrifoedd mae'r cynnig yr un fath, y mae'r llun yn dal i ddweud - ynghanol stormydd bywyd, pan fo hi'n nos arnom, pan fo bywyd yn gignoeth a ffrindiau'n ymddangos yn bell, cofiwn am y cynnig bythol: Ceidwad y goleudy ydwyf Fi.