大象传媒

Rheolwr p锚l-droed a gweinidog

Harri Parri

gan Harri Parri
Bore gwener Gorffennaf 2 2010

Erbyn y bore 'ma, fel y gwyddoch chi hwyrach, mae gin d卯m p锚l-droed dinas Lerpwl reolwr newydd.

Ond a fydd Capello'n cadw'i le sy'n gwestiwn arall. Ond petai hwnnw'n cael ei gardiau fory nesa, mi fydd yna ddigon o ddrysau eraill yn agor o'i flaen o ac mi geith, yn 么l y papurau newydd, ddeuddeng miliwn o bres pocad.

Gweithwyr eraill

Ond meddwl dw i'r funud yma am weithwyr Cwmni Barcud Derwen yng Nghaernarfon 'cw sy newydd golli'u swyddi - a'u pensiynau o bosibl - a does yna ddim arwyddion bod yna ddrysau eraill yn agor o'u blaenau nhw.

Ac i mi, mae cofio hynny'n gyrru'r dyfalu ynghylch Capello a'r iwfforia ynghylch Roy Hodgson i'r tudalennau cefn.

R诺an, hwyrach mai'r gair 'Capello' sy'n peri imi'r funud yma feddwl am gapel.

Cario'r bai

Ym myd p锚l-droed, pan fydd t卯m yn colli, yna, y rheolwr sy'n gorfod dwyn y bai ac mae yna ias o debygrwydd rhwng rheolwr t卯m p锚l-droed a ficer neu weinidog.

Wel ym mywyd eglwys, y fo neu hi sy'n gyfrifol am yr ymarferion ac ar ddiwedd y dydd mae ganddo fo neu hi ryw gyfrifoldeb does am y sg么r?

O feddwl felly, hwyrach y dyla' 'mod i a fy siort wedi cael ein cardiau flynyddoedd yn 么l - wrth gwrs, cyn belled ag mae'r Eglwys yng Nghymru yn y cwestiwn hwyrach y byddai hi'n bosibl iddyn nhw sacio'r esgob!

Dwy g锚m wahanol

Ond clywch, 'da ni'n s么n am ddwy g锚m cwbl wahanol tydan? Ac nid yr un ystyr sydd i'r ennill a'r colli. A prun bynnag, dydi'n g锚m ni ddim drosodd eto - ddim ar lefel cwpan y byd yn si诺r - a 诺yr neb ddim be fydd y sg么r yn derfynol.

Mewn t欧 ffarm yng nghylch y Bala, ar amser te, y gwelis i d卯m Lloegr yn cael chwip din ond o s么n am y g锚m arall 'na, dyna falch o'n i o weld bod yna bobl o hyd yn eglwysi Penllyn yn dal i ddysgu sgiliau byw i blant a phobl ifanc.

A hynny heb unrhyw berygl o golli'u job. Achos, ddaw neb yn eu lle nhw. Wel, hyd y gwyddon ni 'te?


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.