大象传媒

Pob rhyw s么n

gan Denzil John
Bore Llun, Medi 20 2010

Delweddau rhywiol

Bu llawer o luniau yn y wasg dros y penwythnos, gyda dau destun yn benodol.

Bu'r wasg yn awyddus inni wybod am athrawes a fu mor ff么l a gadael enghreifftiau o fideos pornograffig ar ei gliniadur ysgol a bydd llawer yn synnu iddi honni nad oedd yn gwybod bod y ffilm yno.

Mater iddi hi a'i g诺r yw'r hyn sy'n digwydd tu 么l i ddrysau caeedig eu cartref, ond mae'r stori yn enghraifft arall o'r modd mae delweddau rhywiol yn llywio a llywodraethu cymaint o'n byd bellach.

Mae'r diwydiant cyhoeddusrwydd yn dibynnu ar ddelweddau rhywiol i hyrwyddo gwerthiant yn y byd masnachol. Tybiaf y bydd llawer yn cytuno ei fod yn syrffedus ac annerbyniol.

Cam-drin plant

Bu llawer o drafod hefyd ar ymweliad y Pab, ond aeth bryd cymaint o'r cyfryngau i ddwyn sylw ar un wedd o ofidiau'r Eglwys Gatholig, a hynny eto yn ymwneud 芒 phwnc rhyw, a'r hanes am offeiriaid yn cam-drin plant.

Mae'r pwnc yn un hynod o bwysig, ond tybiaf y byddai'n werthfawr inni glywed hefyd beth sydd gan y Pab i'w ddweud am dlodi byd-eang, AIDS, rhyfel a gofidiau economaidd y gwledydd i gyd.

Glanhau traethau

Dros y penwythnos bu Cymdeithas Gwarchod llefydd Glan M么r, yn galw am wirfoddolwyr i lanhau traethau, ac mae hynny'n bwysig.

Mae angen glanhau meddylfryd cymdeithas o'r delweddau pornograffig hefyd. Mae angen gwirfoddolwyr i godi llais a herio'r ffasiwn o osod rhyw a rhywioldeb ym mhobman.

Bydd llythyr neu ebost sy'n protestio a'i anfon at olygydd yn gam cyntaf, gan adael y cylchgrawn a'r lluniau cnawdol ei wedd ar y silff. Beth amdani?

Neu ai fi sy'n mynd yn dipyn o ffydi dydi? Beth yw eich barn chi?


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.