大象传媒

Diwrnod barddoniaeth

gan Aled Lewis Evans
Bore Iau Hydref 7 2010

Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth

Os gwrandawn ni'n astud, mae pobl yn siarad mewn barddoniaeth.

Dwi'n cofio gweinyddes caffi Gorsaf Reilffordd Caer yn dweud wrth ei ffrind am y trip Ysgol Sul i'r Rhyl erstalwm. "Ti'n cofio'r dyddiau y byddem yn cerdded ar dd诺r?"

Dwi'n cofio achlysur arall a g诺r ifanc o Dreuddyn yn disgrifio Plygain Lloc yn Sir y Fflint - disgrifio awyrgylch mynd i mewn i'r eglwys yn blygeiniol fore Nadolig yn y tywyllwch a dod allan i'r goleuni. Rhyfeddu mor Gymreig oedd y codi yn eu tro i ganu. A phetawn wedi recordio ei argraffiadau cynnes, fe fyddai'n farddoniaeth barod.

Grym arbennig

Yn fwy na harddwch ymadrodd, hyd yn oed, mae i farddoniaeth rym arbennig, ac mae dau achlysur yn dod i'r cof.

Angladd bachgen 17 oed yn dilyn damwain ddifrifol. Roedd Eglwys San Silin, Wrecsam, dan ei sang o bobl ifanc dinodyn mewn hetiau pig.

Doedd yr emynau ddim yn cyffwrdd eu profiad ifanc. Yna hogyn a edrychai'r caletaf ohonyn nhw'i gyd yn codi i ddarllen teyrnged i'w ffrind. Y gerdd honno a ysgrifennodd ei hun oedd un o'r arfau cryfaf i mi erioed eu clywed. Diffuantrwydd ei eiriau oedd uchafbwynt y cofio.

Sgrifennu cerdd

Yn ddiweddar, diolch i Facebook, mi ddois yn 么l i gysylltiad efo cyn-ddisgybl yn Ysgol Morgan Llwyd roeddwn i'n arfer ei ddysgu.

Pan oedd o yn yr ysgol roedd o mewn gr诺p oedd yn cael cymorth ychwanegol ond wna i byth anghofio un gerdd a ysgrifennodd. Cri yn erbyn anghyfiawnder i anifeiliaid oedd y gerdd, a dwi'n cofio ei ganmol yn fawr am y teimlad a'r datblygiad yn y gerdd.

Mae o'n gweithio bellach efo c诺n strae tref Wrecsam, yn gallu eu trin yn dyner, ac yn cael ei alw i ddelio efo argyfyngau. Ond roedd o wedi cysylltu efo mi i ddiolch am ysgrifennu'r gerdd honno efo fo ym mlwyddyn naw.

Dywedodd fod ysgrifennu'r gerdd yna wedi newid ei fywyd.

Dathlwn harddwch a grym barddoniaeth o bob math heddiw, ar Ddiwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.