Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd
Dros y Sul roedd hi'n Ddiwrnod Byd Eang Iechyd Meddwl ac mi ges i'r fraint o gymryd rhan mewn noson yng Nghaer o farddoniaeth, monologau a chaneuon dan y teitl arwyddocaol Maen nhw'n dymchwel y Seilam.
Roedd y noson yn edrych ar wahanol resymau am golli iechyd meddwl a bu'n gyfle drwy'r Celfyddydau i godi ymwybyddiaeth a thrafodaeth agored am y maes.
Fe'm hatgoffwyd innau, yn un o'm darlleniadau'r noson honno, am daith i ddinas Fenis.
Wrth fynd yno bydd pawb yn rhyfeddu at y gondola a hen grefft y gondolwyr. Maen nhw'n edrych mor hardd yn mynd i lawr y Canal Grande.
Darganfod gweithdy
Wrth fynd ar goll yng ngwe llwybrau'r ddinas un bore, mi ddois i ar draws gweithdy camlas gefn a oedd yn trwsio hen gondolas wedi gweld dyddiau gwell.
Ac wedi c么t o baent du, a glanhau'r carped dan draed fe edrychent yn ddigon o ryfeddod drachefn, a'u gloywder du yn barod am y brif gamlas eto rhyw ddydd.
Rydan ni ddigon tebyg fel pobl i'r gondolas. Mae'n llesol i bob un ohonom ni gilio i'r camlesi cefn ambell dro o'r prif lif.
Rydan ni i gyd isio mendio'n gobeithion a cheisio newydd freuddwydion ambell dro ac fel y gondolas rydan ni i gyd isio cael ein trin yn dyner a'n hanwylo yn y gweithdy gan y Meistr ac isio adfer ein hyder a'n hyfrydwch.
Rydym oll mor fregus ac eto mor werthfawr yn llygad Duw, fel y gondolas ar eu hanterth neu'n cael hoe yn y gweithdy am sbel.
Ar gael drwy'r amser
Yn ein prysurdeb anghofiwn fod y gweithdy ar agor bedair awr ar hugain ar ein cyfer, bob amser a phan ddychwelwn oddi yno, fyddwn ni nid fel nodyn ansicr hen denor o'r camlesi cefn mwyach, ond yn hytrach yn urddasol a llawn ceinder fel y cychod arbennig hyn yn 么l yn y prif lif.
Fe aeth holl bres y noson yng Nghaer i fudiad gwerthfawr MIND. Fe dynnwyd mwy i lawr ar y ffiniau. Ac fe sylweddolais i o'r newydd pa mor frau ac eto mor fendigedig ydan ni bob un. Yn union fel y gondola.