Gwersi mwynwyr Chile
Wel, mae wedi bod yn wythnos o newyddion da - a dyna i chi beth prin.
Roedd y byd i gyd yn dal ei wynt ac yn llawenhau wrth wylio'r 33 o fwyngloddwyr yn dod i fyny'n fyw yn San Jos茅, un ar 么l y llall, o'u huffern o dan y ddaear, a gweld y rhyddhad a'r gorfoledd ar wynebau eu hanwyliaid.
"Rydw i wedi bod gyda Duw a chyda'r diafol," medda Mario Sepulveda, y comic yn eu plith.
Daethant yn 么l yn gryf eu cyrff a chadarn eu ffydd ac mewn hwyliau da hefyd, a chysidro iddynt dreulio dros ddau fis ymhell o dan y ddaear, lle'r oedd y tymheredd yn 30 gradd a'r gwlybaniaeth yn 90% .
Gallu addasu
Mae'n rhyfedd fel y mae'r natur ddynol yn gallu addasu i'r amgylchiadau mwyaf eithafol a'r ffordd y cadwodd y rhain eu iawn bwyll oedd trwy rannu'r diwrnod yn oriau gwaith ac oriau hamdden, fel petai bywyd yn hollol normal, a rhannu'r gofod oedd ganddyn nhw yn fannau bwyta, mannau adloniant ac ymarfer corff, a hyd yn oed ambell fan lle gallai rhywun encilio ar ei ben ei hun.
Wedi'r cwbwl, meddyliwch am fyw a bod mewn lle cyfyng am ddau fis gyda'r un bobol! Gallaf feddwl am ambell un y byddai'n anodd iawn bod yn ei gwmni cyhyd, ddydd a nos!
Byddai'n demtasiwn gadael ambell un i lawr yno!
Dim ffraeo
Eto, er yr holl densiynau, does yna ddim s么n am ffraeo o ddifri' nac ymrannu'n wahanol garfannau.
Onid yw'r '33' yn esiampl i bawb heddiw?
Os gwnaethon nhw lwyddo i gyd-fyw drwy'r oriau hir dan amodau mor anodd, pam na all hen elynion ein byd wneud yr un fath?
A pham na allwch chi a fi fod yn fwy goddefgar o bobol eraill?
'Gwersyll Gobaith' yn wir.