Faint mwy harddwch Gwy?
Yn 么l p么l diweddar a gynhaliwyd gan Gronfa Bywyd Gwyllt y Byd a mudiadau amgylcheddol eraill dyfarnwyd mai afon yma yng Ngymru, Afon Gwy, yw hoff afon pobol gwledydd Prydain.
Roedd y Gronfa wedi cynnal pleidlais ar-lein ac wedi cael miloedd o ymatebion, gyda Gwy'n cael ei galw yn "ddiamser a hudolus".
Mae afon Gwy'n tarddu ar fynydd Pumlumon yng Ngheredigion, yn llifo trwy Lanfair-ym-Muallt cyn croesi'r ffin i Loegr a dod yn 么l i Gymru yn Sir Fynwy.
Ond mae llefarydd ar ran y trefnwyr yn dweud ei bod hefyd yn wynebu problemau difrifol sydd angen eu datrys.
Mae llygredd amaethyddol, diffyg pysgod a gormod o bori ar y glannau i gyd yn bygwth dyfodol yr afon ac mae angen mynd i'r afael 芒 nhw.
Nid yr unig un
Nid afon Gwy yw'r unig afon sy'n wynebu problemau. Mae nifer o afonydd ledled y byd yn dechrau sychu.
Afon Felen yn China, er enghraifft, yn sychu gan fod cymaint o bobl yn tynnu d诺r ohoni.
Mae na rhannau'r o'r Rio Grande sy'n sychu hefyd a'r Iorddonen y cyfeirir at ei dyfnder yn yr emyn Ar lan Iorddonen ddofn - wel, dyw hi ddim mor ddwfwn erbyn heddi!
Yn hytrach mae'n debycach i nant ac yn llawn carthion o ganlyniad i adeiladu anghyfreithlon ar ei glannau.
Mae'r ffaith bod lefel d诺r yr Iorddonen wedi gostwng yn golygu bod d诺r y M么r Marw wedi gostwng hefyd - tair troedfedd y flwyddyn.
Ydynt, mae afonydd y ddaear hon yn dioddef oherwydd gweithredoedd dyn.
Chi a fi - y rhai y rhoddwyd inni, gan Dduw, y cyfrifoldeb o warchod y ddaear.
Doniau arbennig
Fe'n doniwyd 芒 doniau arbennig i ddatblygu a chyfoethogi bywyd ond gwelir heddiw y doniau hynny yn cael eu defnyddio i lygru'r afonydd a'r awyr gan effeithio'n drwm ar y hinsawdd.
Chi a fi sy'n atal llif yr afon heddiw. Ein gweithredoedd ni a'n ffyrdd anghyfrifol ni o fyw sy'n creu sychdir ar welyau'n hafonydd.
Onid oes angen inni gael ein hatgoffa drwy'r amser o'n cyfrifoldeb tuag at warchod y ddaear hon?
Am faint eto y disgrifir Gwy yn "ddiamser a hudolus"?
Mae'r bardd Wordsworth ymhlith y rhai sydd wedi canu ei chlodydd ond tybed a fydd ein hafonydd yn dihuno eto yr awen yng nghalonnau beirdd ynteu a fyddant yn arwyddion o hinsawdd ein hoes drwy bortreadu hagrwch yn lle harddwch?