Yr ymchwil am hapusrwydd
Y dydd o'r blaen fe gyhoeddodd David Cameron ei fod yn bwriadu comisiynu ymchwiliad i ganfod pa mor hapus yda ni fel pobl.
Ysgogodd hynny gryn drafod yn y wasg gyda rhai yn gofyn, "A ydi hapusrwydd yn dibynnu ar gyfoeth a ffyniant economaidd?"
Gwisgo crys
C锚s i fy atgoffa o'r stori honno am dywysog yn yr India a ofynnodd i un o'i gynghorwyr sut y gallai ganfod gwir hapusrwydd a'r ateb a gafodd oedd y dylai fynd ar daith i chwilio am ddyn gwirioneddol hapus ac ar 么l ei ganfod gofyn am gael gwisgo'i grys!
Wedi teithio o ardal i ardal am wythnosau fe ddaeth y tywysog i bentref bach diarffordd yn y mynyddoedd, ac yno, o'r diwedd, cafodd hyd i ddyn gwirioneddol hapus.
Ond er mawr syndod iddo fo doedd gan y dyn ddim crys!
Na tydi gwir hapusrwydd dim yn dibynnu ar gyfoeth a phethau materol.
Hanner y gwir
Ond hanner y gwir ydi hynny hefyd. Go brin y medr pobl sydd heb do uwch eu pennau ac sy'n rhy dlawd i fwydo'u plant ddweud eu bod nhw'n hapus.
Mae'n rhaid wrth rai pethau materol, sylfaenol i gynnal bywyd.
Ond tydi pobl gyfoethog ddim bob amser yn hapus chwaith. Dywedodd Andrew Carnegie ryw dro ei fod o wedi nabod llawer iawn o filiwn锚rs ond mai ychydig iawn ohonyn nhw fydde'n gwenu byth!
Ein perthynas 芒 ni'n hunain
Oddi mewn inni y mae cyfrinach hapusrwydd. Yn ein perthynas 芒 ni'n hunain: medru goresgyn eiddigedd, balchder, ac agwedd meddwl cas a chwynfanllyd.
Yn ein perthynas ni 芒 phobl eraill: medru gweld y da sydd ym mhawb a byw yn gyfeillgar a chymodlon.
Ac, yn bennaf oll, meithrin ymwybyddiaeth o'r ysbrydol ac o'r dimensiwn anweledig, dirgel, hwnnw y rhoddwn ni iddo'r enw Duw.
Ac mae'n gwneud synnwyr yn tydi? Mai wrth dreiddio i sylfaen a tharddiad bywyd yr ryda ni debyca o ddod o hyd i gyfrinach gwir hapusrwydd