Glywaist ti bo nhw wedi colli o bum g么l i ddim? Yn erbyn Barca!
Camp Y Cyfieithydd
Real Madrid? Ie, 'na fe.Beth 'wedodd e wedyn, te?
Dweud y galle fe arwain Real i'r bencampwriaeth hyd yn oed ar 么l y fath grasfa - ei fod e wedi gwneud hynny gyda Inter Milan.
Da ti, Mourinho, dwed ti wrthyn nhw. Mae'r boi 'na'n arbennig.
Lico'i olwg e wyt ti.
Dangos ti fenyw i fi sy ddim. Jos茅 Mourinho. Mae'r enw ei hunan yn hala'ch ymysgaroedd chi i grynu, heb s么n am ddim byd arall.
"Y Cyfieithydd" ma'r dorf ar derasau'r Cyfandir yn ei alw fe, am mai dyna oedd e yn ifanc - cyfieithydd Bobbie Robson yn Barca.
Wel ma hwnna'n enw dof o'i gymharu 芒 phethe wy wedi'u clywed e'n cael ei alw. Ar 么l y golled fawr 'na yn erbyn Barca o bawb, mentrodd un gohebydd ofyn iddo fe os oedd un tamaid o wyleidd-dra yn perthyn iddo fe.
O, dere nawr, 'na gwestiwn dwl. Dydy nhw ddim yn talu Mourinho i fod yn ddiymhongar, na neb arall yn ei safle fe yn y byd p锚l-droed o ran hynny. Cael eu talu maen nhw i fod yn llawn hyder. Glywais i ddim un cefnogwr go iawn na ddywedodd ar 么l colled fawr, " Y g锚m nesa sy'n cyfri".
Pwy yn y byd sy mo'yn arwr sydd ddim yn dal ei dir? Mae arwr rhywun yn ddewr a phendant, yn eofn a heriol, yn ysbrydoli ei d卯m i ennill, hyd yn oed ar 么l crasfa. Gallwch chi ddim bod yn gefnogwr go iawn a chithau wedi colli'ch hyder.
Dyw cefnogwyr sy'n pwdu werth dim. Cynrychioli gobaith gwirioneddol a hyder yn ei ddawn ac yn ei d卯m y mae Mourinho, a galw ar y cefnogwyr i sicrhau buddugoliaeth.
Rhinweddau lawer
Ond mae'r wasg yn ei gas谩u e.Odi a chas谩u sawl un arall hefyd. Ond dyna ni. Mae gydag e rinweddau lawer sy'n ddeniadol ac i'w hargymell i sawl plaid wleidyddol a'u cefnogwyr, heb s么n am Eglwys Iesu Grist yn ein plith ni.
Wrth i ni baratoi i ddathlu geni Iesu, gwae ni anghofio mai hwn yw'r Iesu buddugol, orchfygodd gynllwynion y tywyllwch, yr un ddywedodd wedi gwarth y groes: "Codwch eich calon, yr wyf fi wedi gorchfygu'r byd."