大象传媒

Drama'r Geni

R Alun Evans

gan R Alun Evans
Bore Iau, Rhagfyr 9 2010

Mae hi wedi bod yn wythnos ryfeddol. Mae heddiw yn addo'i ryfeddodau ei hun. Er mor gynnar y bore - helpwch fi i gastio'r ddrama.

Bnawn Mawrth dyma John Walter Jones yn ymddiswyddo fel Cadeirydd Awdurdod S4C gan ei ddisgrifio ei hun fel "meidrolyn di-nod."

Yng Ngeiriadur y Brifysgol mae dau ystyr i 'meidrol':

(a) cadarn, nerthol, galluog, grymus a

(b) un ag iddo derfynau neu gyfyngiadau, terfynedig.

Yr Awdurdod cofiwch yw bugeiliaid y sianel ac mae'n ddrama ynddi'i hun.

Fore Iau dwaetha pleidlais FIFA ar Gwpan y Byd oedd dan sylw. Dwy bleidlais gafodd Lloegr - un yn bleidlais y Sais ei hun ac felly fe gostiodd y bleidlais arall bymtheg miliwn o bunnoedd. Dyna faint a wariwyd ar gais Lloegr a hynny, medde nhw, mewn cyfnod o argyfwng ariannol. Gan fod y Prif Weinidog yn rhan o'r t卯m gellir casglu nad y nhw yw'r angylion!

A heddiw, pleidlais arall lle bydd un blaid Lywodraethol, y Democratiaid Rhyddfrydol, yn edrych dair ffordd gwahanol yr un pryd. Rhai o blaid cynyddu ffioedd myfyrwyr, rhai yn erbyn a rhai yn atal eu pleidlais. Cyflwr digon diflas yw gweld yn ddwbl. Mae'r rhain yn mynd un yn waeth ond yn cytuno i anghytuno! Peth felly yw gwleidyddiaeth.

A oes tri g诺r doeth yn eu plith?

Ac yn ein Senedd ein hunain bnawn Mawrth hefyd roedd y Cynulliad yn pasio Mesur yr Iaith Gymraeg sydd, am y tro cynta erioed, yn rhoi statws i'r iaith gyda'r Gweinidog druan yn cael ei bortreadu gan rai fel Herod.

Dau gwestiwn: (a) faint o statws sydd gan y Saesneg yn Lloegr lle nad oes Cyfansoddiad cyffelyb yn bod a

(b) o wneud y Mesur Iaith yn Ddeddf ai deddfwriaeth neu'r defnydd o'r Gymraeg sydd bwysicaf yn ein bywyd bob dydd?

Yn nrama'r Geni yn Gymraeg y clywir 'Gogoniant yn y Goruchaf i Dduw ac ar y ddaear tangnefedd, i ddynion ewyllys da'.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.