大象传媒

Chwilio

gan Huw Tegid Roberts

15 Rhagfyr 2010

Adnabod y chwiliwr

Tybed sawl un ohonoch chi sydd wedi defnyddio cyfrifiadur y bore 'ma? Os ydych chi, mi alla i fentro bod y rhan fwyaf ohonoch chi wedi defnyddio peiriant chwilio'r we wrth wneud hynny.

Roedd eitem ar y newyddion y diwrnod o'r blaen yn dweud fod yr hyn rydan ni'n chwilio amdano ar y we yn gallu dweud llawer amdanom fel unigolion, fel grwpiau o bobl ac fel gwledydd, hyd yn oed.

Pa un 芒 ydi hynny'n wir ai peidio, un ffaith na all neb ei gwadu ydi ein bod ni'n greaduriaid sy'n chwilio ac mae'r we fyd eang wedi hwyluso'r gwaith hwnnw'n fawr iawn.

Wedi helpu

Gyda'r tywydd oer yn amharu ar drefniadau siopa Nadolig eleni, mae'r we a'i pheiriannau chwilio wedi helpu sawl un ohonom i ddod o hyd i anrhegion ac, wrth gwrs, mae modd chwilio bedair awr ar hugain y dydd.

Wrth feddwl am yr hyn a ddigwyddodd yn ystod y Nadolig cyntaf hwnnw, efallai y cofiwn ni am y rhai a fu'n chwilio bryd hynny.

Cael eu siomi

Mae traddodiad yn nodi mai tri oedd yn chwilio a bod y tri ohonyn nhw'n ddoeth. Faint bynnag oedd yno, a beth bynnag oedd eu galluoedd, mi wnaethon nhw ddefnyddio un o gyfryngau chwilio'r oes a dod yn eithaf agos at y nod drwy ddilyn y seren.

Ond o gyrraedd y cyffiniau, mi roddon nhw ddau a dau at ei gilydd a chael pump. Chwilio yn y lle mwyaf amlwg wnaethon nhw, a chael eu siomi.

Fel ninnau ar y we heddiw, roedd gofyn mireinio tipyn ar eu hymchwil i ddod o hyd i'r hyn oedd ganddyn nhw dan sylw.

Beth fyddwch chi'n chwilio amdano'r Nadolig hwn? Llawenydd? Cwmni? Llonydd? Mymryn o ddistawrwydd? Y synnwyr hwnnw o 'Dangnefedd', sydd mor anodd ei ddiffinio?

Yn y lleoedd annisgwyl

Beth bynnag fyddwch chi'n chwilio amdano, alla i ddim ond gobeithio y dewch chi o hyd iddo.

A pha bynnag gyfrwng a ddewiswch i wneud y gwaith chwilio, efallai'n wir y byddai o werth i chi chwilio yn y mannau mwyaf annisgwyl na fyddant o reidrwydd yn hysbys i bawb.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.