Dydd Sadwrn roeddwn i'n teithio n么l i Bencader.
Wrth gyrraedd Top Alltwalis dyma weld arwydd mawr yn datgan bod melinau gwynt yn gwneud niwed i'm hiechyd.
Yn nes ymlaen yn y dydd, wrth oedi ar groesffordd ar y ffordd i Lambed, dyma weld arwydd mawr arall yn datgan na ddylid codi melinau gwynt ar Fynydd Llanllwni.
Codi arswyd
Nos Sadwrn wrth wrando ar newyddion yr wythnos 'roedd gweld golygfeydd o draws y byd yn codi arswyd.
Yn Brisbane gweld d诺r yn cyrraedd ffenestri trydydd llawr y gwesty roeddwn i'n aros ynddo brin ddeunaw mis yn 么l.
Y neuadd gynhadledd lle b没m yn darlithio bron yn gyfan gwbl o dan dd诺r.
Gweld y tirlithriad ym Mrasil ac effeithiau'r llifogydd yn Sri Lanka.
Clywed am lifogydd Castell-nedd a Machynlleth ac yna, ddoe, pan oeddwn i fyny yng Nghaerefrog gweld nifer o gartrefi ar lannau Afon Foss o dan y d诺r.
Gwireddu pob darogan
Wn i ddim yn iawn a ydy hyn i gyd yn arwyddion pendant o newid hinsawdd ond mae pob darogan am newidiadau yn hinsawdd y blaned yn datgan mai dyma'n union fath o ddigwyddiadau fydd yn cymryd lle.
Erbyn hyn mae gennym hefyd ddigon o dystiolaeth bod trychinebau naturiol o'r fath yn digwydd yn amlach nag yr oeddent hanner canrif yn 么l.
Beth, felly, ydym am ei wneud? Gwyddom fod yr hinsawdd yn newid. Gwyddom fod dynoliaeth 芒 chyfrifoldeb am hyn.
Dulliau amgen
I leihau'r effeithiau rhaid inni ddefnyddio dulliau amgen o gynhyrchu ynni - ond nid ydym yn or-hoff o felinau gwynt!
Rhaid inni ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a sicrhau nad oes mwy nag un car gan bob teulu - ond mae hynny'n amhosibl ac yn achosi pob math o anawsterau!
Codi mwy o dreth ar danwydd - ond mae hynny'n annerbyniol, yn arbennig yng nghefn gwlad lle nad oes isadeiledd trafnidiaeth ddigonol.
Efallai'i bod hi'n bryd inni ddechrau bod yn gwbl onest a datgan bod diogelu'r amgylchedd a lleihau effeithiau newid hinsawdd yn ormod o drafferth inni ac yn effeithio'n ormodol ar ein ffordd gysurus o fyw.
Ai dyna fyddai orau?