大象传媒

Dwy gofgolofn

Llun o 1992 o benglogau rhai a laddwyd gan y Khmer Rouge

21 Ionawr 2011

gan Geraint Morse

Dwy gofgolofn

Dwi'n edmygu pobl sydd yn cadw ffydd trwy brofiadau heriol.

Ychydig o wrthwynebiad sydd ei angen ar rai a bydd tywel ffydd wedi ei daflu mewn i'r sgw芒r i gyhoeddi bod yr ornest ar ben.

Ond mae eraill, yn dal ati, yn cadw i fynd, yn dal i frwydro ac yn dal i gredu a hynny yn wyneb pob caledwch.

Un o'r bobl bositif yma yw Cristion o'r enw Yi sydd yn weinidog ar eglwys fechan yn Phnom Pehn, prifddinas Cambodia.

Cwrddais i 芒 Yi rai wythnosau n么l wrth ymweld 芒'r wlad ac aeth 芒 ni i gyrion y ddinas i weld y gofgolofn fwyaf arswydus a brawychus a welais i erioed.

Dim byd tebyg

Mae'n amheus gennyf a oes 'na gofgolofn debyg iddi yn unman arall yn y byd. Ffurfiwyd y gofgolofn uchel hon allan o haearn a gwydr ac mae wedi ei llenwi 芒 phenglogau.

Codwyd y gofgolofn i goffau'r miliynau a lofruddiwyd yng Nghambodia yn ystod cyfnod y Khmer Rouge o 1975 i 1979 dan arweinyddiaeth Pol Pot.

Ceisiodd yr unben creulon hwn orfodi rhyw fath o gomiwnyddiaeth. Creu unedau amaethyddol trwy'r wlad a dileu'r farchnad rydd.

Er i'r bobl dyfu reis, gwerthwyd hwn i wledydd tramor am arfau i sicrhau bod y Khmer Rouge yn aros mewn grym.

Daeth dagrau i lygaid Yi wrth inni gerdded o gwmpas y gofgolofn ac yntau'n s么n am y profiad o golli ei dad a'i frawd yn y cyfnod hwn a'r effaith ddinistriol a gafodd hyn ar ei fam a'i chwaer.

Ymweld ag ysgolion

Yna fe aeth a ni i'w gartref, i gwrdd 芒'i wraig a'i blant. Roedd Yi wedi dechrau ysgol yn ei gartref i rai o blant y stryd, ysgol seml, yn brin o adnoddau ond yn llawn o frwdfrydedd.

Aeth Yi 芒 ni i ysgol arall hefyd, taith dwy awr i ffwrdd, lle'r oedd tua 200 o blant mewn ysgol roedd e wedi ei sefydlu gyda chymorth Jeanne, un o'n ffrindiau ni sy'n gweithio yn y wlad ond yn dod yn wreiddiol o Gaerfyrddin.

Anghofiai byth weld wynebau'r plant yn y gwersi a s锚l yr athrawon yn eu dysgu mewn sefyllfa dlawd ac anghenus.

Ein braint oedd rhannu yn y gwersi, s么n am Gymru, s么n am Iesu Grist a s么n am gariad Duw.

Llawn o gariad

Gadawsom y Ddraig Goch ar 么l yn hedfan uwchben yr ysgol fel arwydd o'n cyfeillgarwch ni 芒'r wlad.

Mewn gwirionedd, gwelais ddwy gofgolofn, un o wydr yn llawn o benglogau yn coffau trais a chreulondeb, un arall o gig a gwaed yn llawn o gariad, daioni a ffydd, yn hyrwyddo bywyd.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.