Adroddiad brawychus
Oedd, mi roedd yr adroddiad a gyhoeddwyd ddoe am y gofal - wel, y diffyg gofal, wir - i'r henoed yn ysbytai Lloegr yn frawychus.
A dw i'n pwysleisio ysbytai Lloegr. Roedd y papurau trymion bron i gyd yn cario'r stori. Hen wraig yn nechrau'i nawdegau, yn gorwedd yn ei gwely ynghanol ei charthion ei hun ac olion y pryd cynt wedi crachennu amgylch-ogylch ei gwefusau hi, a heb ei lanhau - a hithau'n sychedu.
Roedd yna lasiad o dd诺r wrth ochr y gwely ond bod hwnnw allan o'i chyrraedd hi. Ond fedra hi ddim cydio ynddo fo petai o fewn ei chyrraedd hi.
Pardduo pawb
O ddarllen neu wrando stori fel'na y perygl mawr, wedyn, ydi pardduo pob ysbyty led-led Prydain hefo'r un parddu.
Mi f没m i mewn ysbyty yn Lloegr, bedair blynedd yn 么l ac roedd y gofal yno - gofal dwys am gyfnod - yn ardderchog. Ond pan fo adroddiad cwbl annibynnol - yn 么l y Telegraph - yn deud fod tri o bob pump o oedolion, sy'n marw o fewn y mis wedi derbyn triniaeth lawfeddygol, heb dderbyn y gofal disgwyliedig mae'n rhaid ystyried.
Yna, a defnyddio gair meddygol, fe gaed y diagnosis disgwyliedig: y targedau eto fyth, prinder staff, camhyfforddi neu hyfforddiant annigonol a'r ymdeimlad mai hen bobl ydyn nhw beth bynnag.
Roedd yr adroddiad yn awgrymu fod y drwg yn y caws yn ddyfnach na hynny - yn fater o, be ddeuda i, o ffordd israddol o feddwl am gleifion oedrannus ac, o ganlyniad, yn arwain at ffyrdd esgeulus o weithredu.
Gofal, trugaredd, parch
Be oedd ar goll, yn 么l yr adroddiad, oedd 'gofal', 'trugaredd' a 'pharch' - tri gair Beiblaidd.
Ydi hyn yn or-ddweud? Wrth inni gefnu mor llwyr ar yr ysbrydol a llowcio'r materol, yr arwynebol a'r poblogaidd, oes yna berygl i werthoedd fel 'na fynd ar goll?
Dwi'n weddol sicr mai argyfwng cred ydi hi ac, o ganlyniad, newid mewn gwerthoedd.
Ond fel deudodd y Mandy Rice Davies honno, yn nyddiau Profumo, "Mi fydda fo yn deud hynny." Ond deud ei ddeud oedd y gofyn!