Cyn galled a dafad?
Tybed sut noson o gwsg gawsoch chi neithiwr? Os na wnaethoch chi gysgu rhyw lawer, fel tad i ferch fach deng mis oed sy'n hel dannedd ar hyn o bryd, mae gen i bob cydymdeimlad efo chi.
Pan fydd Huwcyn cwsg allan o'ch cyrraedd, mae'n bosib y byddwch chi'n rhoi cynnig ar bob math o bethau i geisio mynd i gysgu.
O yfed te camil i geisio gwrando ar gerddoriaeth glasurol, mae gan bob un ohonom bethau y byddwn ni'n rhoi cynnig arnyn nhw, gan gynnwys cyfrif defaid.
A! Ie, yr hen ddefaid ystrydebol hynny. Mae hynny'n si诺r o weithio meddai'r 'Nhw' holl-wybodus, a chan fod deng miliwn a mwy ohonyn nhw yng Nghymru mae 'na ddigon o ddefaid i'w cyfrif, yn does.
Eu dilorni
Mae defaid wedi cael eu dilorni'n go arw dros y blynyddoedd am fod yn greaduriaid sy'n methu meddwl drostyn nhw eu hunain. Mae ymadroddion fel 'dilyn y praidd', 'dilyn ei gilydd fel defaid drwy'r adwy', 'pen dafad' ac ati yn dangos sut fath o greaduriaid ydyn nhw yng ngolwg llawer ohonom ni.
Ond arhoswch funud, oni chlywais i'r diwrnod o'r blaen fod gwaith ymchwil newydd yn dangos y gallai defaid fod yn llawer mwy deallus na'r hyn a feddyliem?
Gallu cynllunio
Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Caergrawnt wedi canfod bod defaid mynydd Cymreig yn gallu mapio'r byd o'u cwmpas ac, o bosib, yn gallu cynllunio ymlaen llaw.
Mae canfyddiadau'r t卯m ymchwil yn dangos fod ganddyn nhw'r un gallu ymenyddol 芒 llygod, mwnc茂od ac, mewn rhai achosion, pobl.
Fel rhan o'r gwaith ymchwil, ceisiwyd gweld a oedden nhw'n gallu deall rheolau a cheisiwyd eu cael nhw i wneud yr hyn sy'n cael ei alw'n dasgau dewis.
Pan newidiwyd rheolau'r dasg, roedd y defaid yn ymddwyn yn debyg i bobl, drwy ddangos eu hanfodlonrwydd fod y rheolau wedi newid.
Wel wir, pwy feddyliai? Ydan ni wedi gwneud cam 芒 defaid ar hyd y canrifoedd, yn yr un modd ag y cafodd moch enw drwg am fod yn anifeiliaid bl锚r a budr, er eu bod nhw gyda'r glanaf o greaduriaid y ddaear?
Onid oes yna le i Gomisiynydd Hawliau Anifeiliaid yn y Gymru ddatganoledig, fodern, dywedwch?
Gofyn cwestiwn
Wel, beth bynnag am hynny, a pha un ai a fuoch chi'n cyfrif defaid neithiwr ai peidio, does dim gwadu ei bod hi'n fore erbyn hyn, ac yn tynnu am hanner awr wedi saith.
Ac mi rydw i eisiau gofyn cwestiwn cyn i mi fynd. Beth wnawn ni efo'r diwrnod newydd sydd ar wawrio?
Fyddwn ni'n dilyn y drefn arferol, yn bodloni ar fod yn un o'r praidd, yn dilyn ein gilydd fel defaid drwy'r adwy?
Ynteu a fyddwn ni'n fodlon gweld ymhellach na'r ystrydebau ym mha bynnag sefyllfa y byddwn ni, a pha fath bynnag o bobl y byddwn ni yn eu cwmni?