O ffenestr fy stydi yn y mans yn Rothesay, gallaf weld tair eglwys i lawr yn y dref.
Wel, nid yr eglwysi eu hunain 'rydw' i'n eu gweld, ond eu pigdyrau: nid "dreaming spires" chwedl Matthew Arnold, yn gymaint 芒 bysedd carreg yn pwyntio'n ddiamwys tua'r nefoedd; at y gwirionedd; at Dduw . . .
Hoffter o bigdyrau
'Roedd Presbyteriaid yr Alban, yn oes Fictoria, gyn hoffed ag unrhyw draddodiad Cristnogol o bigdyrau hyf, hyderus.
Mae clerigwyr yr unfed ganrif ar hugain yn tueddu i edrych ar dyrau eglwysig mewn ffordd wahanol.
Achos pryder ydi twr eglwys yn ymarferol. Mae tyrau'n torri ar symledd amlinell to'r adeilad ac os oes 'na dd诺r yn tasgu i mewn yn rhywle, bron yn ddieithriad yn y t诺r mae'r broblem.
Ac mae problemau hefo tyrau yn tueddu i fod yn anhygoel o ddrud i'w trwsio. 'Dwi'n cysgu'n well am nad oes gan fy eglwys i d诺r!
Ac mae drwgdybiaeth fod rhywbeth yn ddiwinyddol amheus yngl欧n 芒'r symbolaeth; sicrwydd anatebadwy, lle breiniol yn y gymdeithas, yr eglwys yn berchen y gwirionedd.
'Yn codi nghalon'
Ond wedi dweud hynny, mae'n rhaid imi gyfaddef fy mod i'n hynod hoff o bigdyrau. Mae sefyll wrth waelod un, ac edrych i fyny ddegau, neu gannoedd, o droedfeddi at ei big, yn codi nghalon.
Deallaf yn iawn pam 'roedd trigolion dinas Christchurch mor hoff o d诺r eu heglwys gadeiriol. Yn 63 metr o uchder ac yn weladwy o sawl cwr o'r ddinas, yn rhan, yn wir, o'i heidentiti.
Yn naeargryn ddydd Mawrth, dymchwelwyd y twr yn deilchion, a daeth darluniau o'i stwmp toredig yn rhai o ddelweddau eiconig trallod ac artaith Seland Newydd.
Duw gwahanol
Yng nghanol trychineb o'r fath, yng nghanol y dryswch a'r ofn, trawsffurfiwyd symbolaeth t诺r yr eglwys trwy ei gwymp.
Daw'n arwydd o Dduw gwahanol. Duw toredig, archolledig, sy'n rhannu amwysedd, pryder a phoen ein sefyllfa gyda ni.
Duw sydd, lle nad oes atebion, i'w gael yn y cwestiynau, ac yn y gofyn a'r ymofyn. Duw i'w geisio nid uwchlaw a thu hwnt i realiti bywyd, ond yn ei ganol.