大象传媒

Y mawr a'r bach

Eglwys gadeiriol Milan

03 Mawrth 2011

gan Geraint Rees

Rhwng Glynd诺r a'r Beatles

Dydd Sadwrn diwetha, roedd t卯m rygbi Cymru allan yn yr Eidal yn dathlu buddugoliaeth denau yn erbyn yr Eidalwyr.

Ddau gan milltir i'r de o'r Eidal roedd Libya a'i chymdogion ar d芒n wrth i bobl gogledd Affrica ddangos eu hanfodlonrwydd gyda'r el卯t cyfoethog sydd wedi tewhau fel fwltwriaid ar gyrff tlodion eu gwledydd eu hunain.

Yfory, byddwn ni'n dathlu dydd ein nawddsant ac wrth inni geisio cymhwyso ei anogaeth i ni "lawenhau, cadw'r ffydd a gwneud y pethau bychain" rwy'n mynd i droi at yr Eidal a Twnisia am ysbrydoliaeth.

Gweld tu draw

Mae na unigolion ym mhob oes wedi gweld y tu hwnt i drafferthion eu dydd gan greu seiliau gwell ar gyfer cenedlaethau i ddod.

Un fath genhedlaeth oedd adeiladwyr eglwysi cadeiriol mawr yr oesoedd canol ar hyd a lled Ewrop. Ysgwn i faint ohonom ni sydd wedi bod i Milan a gweld ei heglwys gadeiriol o gerrig a gwydr yn odidog yn codi uwchben y ddinas?

N么l yn nyddiau Owain Glynd诺r aeth Archesgob Milan ati i gymell y bobl i adeiladu eglwys gadeiriol i'r ddinas. Roedd y pla du yn llethu Ewrop gyda miliynau'n marw, rhyfeoledd di-bendraw ar hyd a lled y Cyfandir i gyd a'r Egwlys Gatholig wedi ei hollti rhwng Pabau Rhufain ac Avignon.

Aeth pum canrif heibio wrth i'r gwaith adeiladu barhau ym Milan. Gorffennwyd yr Eglwys yn Chwedegau'r ganrif ddiwethaf, wedi chwe chan mlynedd. Ie, dechrau adeiladu eglwys yn oes Glynd诺r a'i gorffen yn oes y Beatles a'r Blew.

Chwyldroadau Arabaidd

Dau can milltir yw hi o'r Eidal i Twnisia. Yn y fan honno ddechreuodd y chwyldroadau Arabaidd sy'n llenwi'n newyddion ni heddiw.

Prin yw'r sylw gafodd ffigwr trasig chwech ar hugain oed, Mohamed Bouazizi, dyn tlawd oedd yn cadw teulu o wyth mewn bwyd a dillad trwy redeg stondin llysiau a ffrwythau ar ochr stryd yn Twnisia.

Jyst cyn y Nadolig daeth plismones a mynnu arian ganddo er mwyn iddo barhau i fasnachu ond gydag arian yn brin, gorffennodd y saga gyda'r blismones yn ei wawdio, rhoi slap iddo a thraflu ei ffrwythau dros y stryd.

Pan aeth Bouazizi i weld pennaeth y Cyngor lleol i ofyn am gefnogaeth i ddelio 芒'r fath ymddygiad nid oedd neb yn barod i'w helpu ac yn ddirybudd cafodd afael ar botel o betrol a rhoi ei hunan ar d芒n, gan farw bythefnos yn ddiweddarach mewn ysbyty.

Arweiniodd fflamau hunan aberthol, truenus, Mohamed Bouazizi at d芒n sydd wedi lledu ar draws gogledd y cyfandir cyfan.

Dau safiad gwahanol

. Gwnaeth esgob Milan o oes Glynd诺r a Mohamed Bouazizi o'n hoes ni ddau safiad symbolaidd cwbl wahanol.

Y ddau yn arwrol ond y naill na'r llall, mae'n debyg, yn ymwybodol, mi dybiwn, o ddylanwad eu gweithredoedd.

Efallai na alla i adeialdu eglwysi cadeiriol ac annoeth fyddai dilyn esiampl Mohamed Bouazizi ond mae yna bethau heddiw a fory yn ein cymunedau y gallwn ac y dylwn ni eu gwneud fydd o les i bobl fydd yn gwybod dim amdanom ni mewn blynyddoedd i ddod.

Yn ystod wythnos dathlu nawddsant a'n cymhellodd wrth iddo farw i "wneud y pethau bychain", y peth lleia y dylem gyd ymrwymo iddo yw i wneud y pethau bychain hynny.

Os gwnawn ni gyd y pethau bychain gallwn gyfiawnhau, mae'n debyg, adael y pethau arwrol i eraill.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.