Pethau sy'n cyfrif
Ar y rhaglen hon ddoe, cawsom wrando ar sgwrs ddifyr yn cyfeirio at y ffaith y byddwn yn derbyn gohebiaeth Cyfrifiad 2011 yn ystod yr wythnos hon.
Cyfle i roi gwybodaeth i'r sawl sy'n cynllunio polis茂au er mwyn darparu ar ein cyfer dros y blynyddoedd nesaf.
Ymhen canrif bydd eraill yn awyddus i gasglu gwybodaeth amdanom wrth iddynt hel achau mae'n si诺r. Holodd Gari ddoe a oedd y syniad o gyfrifiad yn hen-ffasiwn bellach, ac fe wnaeth fy nharo i, i feddwl pa gwestiwn na fyddem am eu hateb.
Mae'n dda ein bod yn medru ateb yr holl gwestiynau a ddaw. Pe na fyddem yn medru ateb y cwestiwn, byddai gofid llawer mwy.
Profiad anodd yw ymweld gyda hen gyfeillion a arferai wybod cymaint, ond bellach wedi colli pob syniad o'i hunaniaeth. Un peth yw bod gofidiau corfforol arnom, ond Duw a'n helpo pan gollwn yn llwyr bob gafael ar ein cof.
Cerrig miltir
Yn y slot yma ddoe, clywsom S卯on Meredith yn cyfeirio at y cyfaill Dafydd Jenkins o'r Llyfrgell Genedlaethol gynt yn dathlu ei ben-blwydd yn gant oed.
Mae gan fy mhriod ewyrth a fydd yn cyrraedd yr un garreg filltir o fewn deufis, ac roedd yntau yn chwarae bowls tan ryw ddwy flynedd yn 么l.
Ddoe, cytunais i arwain angladd bachgen ifancach na mi, a phrin y byddai ef yn effro i'w gyflwr ychydig flynyddoedd yn 么l hyd yn oed.
A phwy fyddai wedi dychmygu y byddai Tirion Lewis wedi cael y fath anaf gan gyn gariad iddi, ac yn dal i ddioddef, deunaw mis yn ddiweddarach?
Cofio pwy ydym
Onid rhywbeth sylfaenol yw cofio pwy ydym ac adnabod ein hunain. Nid rhywbeth morbid yw byw pob dydd fel pe byddai'n ddiwrnod olaf ond agwedd meddwl i wneud y gorau o bob dydd ac i beidio gadael unrhyw staen annifyr ar dudalen y cof.