Ddydd Gwener bu trychineb mawr yn Japan ac mae'r lluniau a welson ni drwy'r cyfryngau ers hynny yn darlunio dinistr enbyd i gymunedau rif y gwlith, yn Japan, ac mewn gwledydd pell ac agos o amgylch y m么r a elwir, yn ddigon eirionig, Y M么r Tawel.
Hwn ydy'r trychineb naturiol diweddaraf i daro'r byd. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwetha, bu daeargrynf芒u mawr yn Chile, Haiti a Seland Newydd, sychder yn y Sahel, Affrica, a llifogydd enfawr yn Awstralia a Phacistan.
Ac wrth gwrs mae'r lluniau diweddaraf o Japan yn dwyn i gof y tsunami a drawodd rhai o wledydd Asia ar ddydd G诺yl San Steffan yn 2004.
Codi cwestiynau
Pan fyddwn ni'n wynebu treialon personol, mi fyddwn ni'n tueddu i gwestiynu; Pam fi? Be dw i wedi ei wneud o'i le? Pam bod Duw yn caniat谩u y fath ddioddefaint?
Ella bod rhai o'r 1.5 miliwn o bobl a gollodd eu cartrefi yn neargryn Haiti wedi gofyn cwestiynau fel hyn. Pobl fel Murielle, mam i chwech o blant a gollodd ei g诺r a'i chartref yn y deargryn.
Ond fe gafodd Murielle loches a bwyd argyfwng gan fudiad o'r enw Adda, sydd yn bartner i'r elusen Tearfund.
Fran莽ois yw un o wirfoddolwyr y mudiad hwn, ac mi aeth o ati yn ddiflino yn y dyddiau a'r wythnosau yn dilyn y daeargryn i ddod ag ymgeledd i rai fel Murielle, a hynny er ei fod o'n wynebu digon o anawsterau ei hunan
"Daeth Francois 芒 goleuni i mi pan nad oedd ond tywyllwch," meddai Murielle.
Ar y cyrion
Mae'n dywyll heddiw ar filoedd o drigolion a chymdogion Japan.
Ond ddaw hi ddim goleuach os safwn ni ar y cyrion yn gofyn cwestiynau. Synnwn i fawr nad oes miloedd o wirfoddolwyr fel Fran莽ois eisoes ar waith - yn gwthio'r tywyllwch yn ei 么l, fodfedd wrth fodfedd. 'Dewch i ninnau sefyll efo nhw.