Dyw pacio ddim yn beth anghyffredin imi. Ond fel arfer pacio ar gyfer gwledydd twym ydw i - y tro hwn, siwmperi a sannau cynnes sydd eu hangen!
Ers gweithio gyda Chymorth Cristnogol, rwy wedi ymweld a gweithio mewn 16 o wledydd ond hwn fydd fy ymweliad cyntaf 芒 Denmarc.
Dyma leoliad Uwch Gynhadledd y Cenehdloedd Unedig ar Newid Hinsawdd. A Copenhagen fydd pen y daith.
Diflas - neu'n gerrig milltir
Yn fy mhrofiad i gall cynadleddau rhyngwladol fod yn bethau eithriadol o ddiflas. Er hynny, gallant fod yn gerrig milltir pwysig sy'n esgor ar bethau mawr. Bydd y trafodaethau hyn yn allweddol yn yr ymgyrch i leihau effeithiau newid hinsawdd yn ein byd.
Rwy wedi bod yn rhan o ymgyrch Newid Hinsawdd Cymorth Cristnogol ers y dechre a fy ngobaith mawr yw y ceir cytundeb byd-eang yn Copenhagen fydd yn ymrwymo y gwledydd cyfoethog i fabwysiadu targedau fydd yn atal mwy o gynhesu byd-eang tra'n galluogi gwledydd tlawd i ddatblygu'n gynaladwy.
Dilyn a sylwedbu
Tra yn Copenhagen, mi fyddai'n cynorthwyo t卯m Cymorth Cristnogol i ddadansoddi a sylwebu ar y trafodaethau. Byddaf hefyd yn saethu fideos a thynnu lluniau o'r gweithgareddau yno, ac yn cofnodi'r daith ar y blog hwn.
Mae'r c锚s bron yn barod, a minnau'n barod i gychwyn. Pythefnos yn oerfel Sgandinafia o'm blaen gyda mymryn o hiraeth am haul gorllewin Affrica!
Gobeithio cewch chithau fymryn o flas y daith.