Nos Fawrth Rhagfyr 8
Heno cynhaliwyd cynhadledd frys i'r wasg gan y G77, sef y gr诺p trafod o'r gwledydd sy'n datblygu.
A hynny'n ymateb i ddatganiad drafft o Ddenamrc a gafodd ei "ollwng" i John Vidal o'r Guardian y prynhawn yma.
a gafodd ei ddatgelu - yr hyn a fedyddiwyd yn "Danish text" ond yn 么l y s么n, yn ddatganiad cytundeb drafft a gafodd s锚l bendith gwledydd Prydain, Denmarc ac UDA. ddiwedd yr wythnos diwethaf.
Dweud ei farn
Un g诺r oedd ar y llwyfan heno, sef Lumumba Stanislaus Di Aping, prif lefarydd gr诺p y G77. Yn ddiflewyn ar dafod, dywedodd ei farn mewn ystafell orlawn.
"Mae hyn yn ddatblygiad difrifol ond yn ddatblygiad anffodus iawn sy'n bygwth llwyddiant trafodaethau Copnehagen," meddai, cyn esbonio sut y byddai cynnwys y datganiad yma yn dinistrio'r unig gyfreithiau presennol ar newid hinsawdd (Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd a Chytundeb Kyoto).
Aeth ati i egluro ymhellach y byddai cynnig fel yr un a ollyngwyd i'r wasg yn golygu llif arian o wledydd tlawd i'r gwledydd cyfoethog, fyddai'n amddifadu gwledydd tlawd ymhellach o'u cyfran o ofod atmosfferig.
Nid oedd dim yn y datganiad ychwaith yngl欧n 芒 chynigion y gwledydd tlawd eu hunain o beth y dylid ei gynnwys mewn unrhyw fargeinio.
Gofynnwyd i Lumumba Stanislaus Di Aping a oedd unrhyw beth annisgwyl yn yr ebost yma;
"Chefais i mo fy synnu na fy syfrdanu gan y cynnwys," meddai, "dyw e ddim yn beth newydd gan y Gorllewin."
Heb os nac oni bai, os mai g锚m neu beidio oedd gollwng yr ebost hwn i'r wasg, mae siom a thensiwn yn awyr Copenhagen heno.