Bore Iau, Rhagfyr 10, 2009
Gadewais y gynhadledd neithiwr yng nghwmni pennaeth Asiantaeth yr Amgylchedd, Uganda a Gweinidog Amgylchedd llywodraeth Botswana, y ddau yn flin ac yn isel eu hysbryd.
"Dyw pethe ddim yn mynd yn dda. Mae angen inni fod yn unedig fel gwledydd llai datblygedig ond dydy ni ddim. Dydy ni wledydd Affrica hyd yn oed ddim yn unedig", meddai'r cyfaill o Uganda.
"Gobeithio y bydd pethau'n well fory", meddai'r Gweinidog o Botswana wrth i ni wahanu.
Mae'r heip am y rhwyg ymhlith y gwledydd llai datblygedig wedi tynnu gorchudd dros brif nod y gynhadledd - a fydd Protocol Kyoto yn gallu goroesi Copenhagen?
Wrth eu boddau
Roedd y cyfryngau wrth eu boddau gyda'r rhwyg annodweddiadol o fewn i'r G77 - gr诺p y gwledydd llai datblygedig - yn y trafodaethau ddoe ond roedd llai o ddiddordeb ganddynt yn y ffaith bod Rwsia wedi tynnu ei thargedau allyriannau yn 么l o unrhyw gytundeb newydd.
Wrth gwrs, un o brif achosion y tensiwn yw nad yw'r ddwy wlad sy'n llygru fwyaf heb erioed arwyddo Protocol Kyoto, sef China a'r Unol daleithiau.
Mae llawer o chwerwedd yma oherwydd hynny a phroblem arall yw sut mae cael y gwledydd cyfoethocaf i ymrwymo i dargedau cyfreithiol.
Roedd dadlau ddoe o fewn y G77 yngl欧n 芒'r gwahanol ffyrdd y mae gwledydd sy'n datblygu am sicrhau bod Protocol Kyoto'n cael ei gadw fel sail ar gyfer ei gryfhau.
Mae angen llawer mwy o bwyslais yma ar sut i wneud hynny, a chytuno ar ail gyfnod o dargedau ymrwymedig.
Rhwyg yn cuddio rhwyg
Mae'r rhwyg rhwng y gwledydd llai datblygedig yn cael ei ddefnyddio i guddio'r rhwyg pennaf - sef y rhwyg rhwng y gwledydd cyfoethog a'r gwledydd tlawd.
Mae'r gwledydd tlotaf yn parhau yn unedig am yr angen am gytundeb teg, uchelgeisiol, fydd yn ymrwymo gwledydd i gadw at y targedau allyriant.
Mae nhw hefyd yn gyt没n y dylai Protocol Kyoto barhau fel sail ar gyfer cytundeb newydd, gan mai hwn yw'r unig orfodaeth cyfreithiol sy'n ymrwymo'r gwledydd cyfoethog i gadw at eu targedau allyriant.
Yn y cyfamser mae'r holl sylw i'r rhwyg rhwng y gwledydd llai datblygedig yn f锚l ar fysedd y gwledydd cyfoethog.
Ceir trydan
Treuliais ddiwedd y dydd mewn derbyniad a drefnwyd gan gwmni ceir Renault yn lansio eu cyfres o geir trydan a gyflwynir i'r farchnad dorfol yn 2011.
Er mai digwyddiad cyhoeddusrwydd oedd hwn, mae'n rhaid i gwmn茂au hefyd chwilio am ddulliau newydd o ddatblygu technoleg a thrawsnewid hen ffyrdd o feddwl a gweithio, gan gyfrannu at oes werdd newydd.