Jeff Williams Cymorth Cristnogol yn sgrifennu o'r Gynhadledd Newid Hinsawdd yn Copenhagen
Bore Iau, Rhagfyr 17
Protest wrth i ddrysau gael eu cau
Mae sawl ffordd o roi taw ar y gwirionedd. Daeth trefnwyr yr Uwchgynhadledd hon o hyd i ffordd effeithiol iawn - cau'r gwirionedd allan o'r ganolfan lle mae'r trafodaethau'n digwydd.
Mae siom ymhlith y bobl sydd wedi ymdrechu i fod yma - ac y mae llu o academyddion, siaradwyr gwadd, sylwebyddion a lob茂wyr swyddogol wedi gweithio'n galed a theithio ymhell i fod yma.
Mater o fywyd a marwolaeth
I rai mae'n teimlo fel mater o fywyd neu farwolaeth i lob茂o neu annerch Uwchgynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar newid hinsawdd a hawdd gweld yr angerdd yn eu hwynebau a'i glywed yn eu lleisiau wrth iddynt brotestio wrth fynedfa'r ganolfan yn erbyn eu gwahardd.
Mae cyfarfodydd a chynadleddau i'r wasg yn gorfod cael eu canslo gan nad ydi'r siaradwyr yn cael mynd mewn i Ganolfan Bella.
Neithiwr, gorfu i Gymorth Cristnogol ganslo cynhadledd i'r wasg gyda'n partneriaid o India oherwydd nad oeddent yn cael mynediad.
Y bwriad oedd lansio'n swyddogol yr adroddiad a gyflwynwyd i Carwyn Jones ddydd Llun.
"Mae'n ddrwg gen i," oedd unig sylw secreteriat yr UNFCCC.
O'r India
Teithiodd y ddirprwyaeth o 17 o frodorion cynhenid a chymunedau dalit yma'n arbennig o India er mwyn lob茂o a chymryd rhan mewn cyfarfodydd - ond cawson nhw ddim mynd mewn.
Mae Siarter Gymunedol India ar Newid Hinsawdd yn gynghrair o gannoedd o 'Gymunedau Hinsawdd' ar draws y wlad a'i nod yw dod 芒 chymunedau at ei gilydd er mwyn ymateb i her newid hinsawdd ar bob math o lefelau, er mwyn creu llwybr ar gyfer cynaladwyedd y dyfodol.
Pwysigrwydd mudiadau
Mae Datganiad Rio ar yr Amgylchedd a Datblygiad yn datgan bod "mudiadau yn chwarae r么l angenrheidiol yn llunio a gweithredu democratiaeth gyfrannol".
Mae cymdeithas sifil yn dod 芒 pherspectif pwysig a phrofiad allweddol i'r trafodaethau a dyna pam fod mudiadau fel Cymorth Cristnogol yma.
Dyna pam ein bod yn cael caniat芒d i gymryd rhan mewn trafodaethau, ac yn croesawu'r cyfle.
'Yn flin iawn'
Ddoe, aeth rhai yn flin iawn gan eu bod yn methu mynd mewn. Ac i wneud pethe'n waeth aeth protestwyr eithafol (oedd heb fathodynnau) lawr i'r Bella hefyd i greu trafferth ac arweiniodd hyn at ymladd, nwy dagrau ac arestio wrth i bobl geisio dringo'r ffens.
Mae eraill yn gwneud eu protest yn llawer tawelach; rhai - fel fi! - wedi canfod llefydd eraill i weithio ynddynt, a pharhau 芒'r gwaith mewn ffyrdd amgen.
Diolch i Danchurch Aid am eu desg, eu croeso, a'u siocled!
Mae 'tecstio', 'trydar' a chysylltiad 'di-wifr' wedi datblygu'n ddulliau cyfathrebu y mae'n anodd cyfyngu arnyn nhw.
Llosgi bathodynnau
Mewn gweithred symbolaidd, penderfynodd y criw o India losgi eu bathodynnau mynediad y tu allan i Ganolfan Bella a ffilmiwyd y brotest gan ddwy o wragedd dalit India, Narsamma a Manjulai, aelodau prosiect un o bartneriaid Cymorth Cristnogol, DDS Media Trust yn Andhra Pradesh.
Daeth y gwragedd yma i annerch cyfarfodydd, i adrodd eu profiad ac er mwyn cynhyrchu ffilm o'u hymweliad 芒'r trafodaethau ar newid hinsawdd i'w ddangos i gymunedau adref yn yr India.
Amhosibl fydd ffrwyno'r gwirionedd am byth.
Fel y dywedodd Waldo, "Ond ofer eu celwydd a'u coel i'n cadw ni'n hir ar wah芒n."