大象传媒

Emosiwn ac ansicrwydd

Poster Wyneb Sarkozy - Arlywydd Ffrainc

Nos Wener, Rhagfyr 18 2009

Mae hi wedi bod yn anodd blogio heddiw!
Diwrnod o ddatblygiadau a diffyg datblygiadau.

Mae'n anodd gwybod beth sy'n wir a beth sy'n sibrydion gwag. Weithiau mae'n ymddangos bod rhywbeth ar fin digwydd, dro arall mae'n teimlo fel bod yr holl drafodaethau am gwympo a gorffen mewn ffrae.

Cyrhaeddodd Obama a heno, mae wedi gohirio ei daith yn 么l i'r America.

Wrth imi ysgrifennu mae'r Unol Daleithiau a China mewn cyfarfod wyneb yn wyneb a sibrydion y bydd China'n cerdded allan. Mae cytundebau drafft yn chwyrlio o gwmpas y lle, ond y negydywr yn troi yn eu hunfan.

Mae sibrydion o obaith hefyd. Ydi, mae Copenhagen yn ddinas emosiynol ac ansicr heno.

Pob math o gwestiynau
Mae pob math o gwestiynau yn hofran:

  • A yw unrhyw gytundeb yn well na dim cytundeb o gwbl?
  • Ydi'r trafodaethau am ddymchwel?
  • Ydyn nhw am barhau i srafod?
  • Ai cytuno i barhau i drafod wnawn nhw?
  • Ydyn nhw am daro bargen rad a rhoi addewid gwag inni?

Aros cyn hired ag sydd raid
Mae Cymorth Cristnogol wedi galw ar yr arweinyddion i aros yn Copenhagen cyn hired ag sydd raid er mwyn cael cytundeb cadarn. Mae Nelson Muffuh, Uwch-Ymgynghorydd Lobio Cymorth Cristnogol ar Newid Hinsawdd, yn galw ar yr arweinyddion i roi'r "anrheg orau erioed heddiw" i'r gwledydd tlotaf

"Arhoswch yn Copenhagen nes ichi gytuno ar gytundeb teg, uchelgeisiol ac un a fydd yn ymrwymo'r gwledydd yn gyfreithiol i ostwng eu hallyriadau carbon.

"Dyma'r amser i chi, arweinyddion cenhedloedd a llywodraethau'r byd, i ddangos inni beth yw arweinyddiaeth!" meddai.

Pwysleisia hefyd na ddylai gwledydd tlawd gael eu llwgrwobrwyo gan wledydd ac arweinyddion cyfoethog na chael eu gwthio i gornel cyfaddawdu.

Tactegau amheus?
Mae sawl si wedi codi yma am dactegau amheus. Nid wedi dod i chwarae g锚m ddylai arweinyddion gwleidyddol ein byd.

Felly mae gan Nelson her ychwanegol i'r arweinyddion:

"Fydd pleidleiswyr ddim yn maddau ichi, fydd tlodion y byd ddim yn maddau ichi, fydd cenedlaethau'r dyfodol ddim yn maddau ichi os byddwch yn gwastraffu'r cyfle gwerthfawr yma sydd gennych i droi'r byd oddi ar y llwybr tuag at drychineb hinsawdd."

  • Am y diweddaraf un gallwch ddilyn ein 'trydar' : @christian_aid@carbonmarch
/cymru/bywyd/safle/crefydd-straeon/tudalen/copenhagen_01.shtml

Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.