Nos Sadwrn, Rhagfyr 19, 2009 - y blog olaf
Siomedig ydw i heddiw. Mae hi wedi bod yn bythefnos hir a rhwystredig a'r oriau olaf yma wedi bod yn llawn cymylau duon.
Gyda'r Cenhedloedd Unedig yn amcangyfrif bod 300,000 o bobl eisoes yn marw bob blwyddyn o ganlyniad i effeithiau newid hinsawdd, mae'r diffyg cytundeb grymus dros yr oriau diwethaf yn newyddion trychinebus i'r gwledydd tlawd.
Dim ond cysgod
Cysgod o'r hyn y gellid fod wedi ei gynnig sydd wedi ei roi. Mae datganiad gwleidyddol o fwriad annigonol yn gam yn 么l yn y frwydr dros gyfiawnder hinsawdd.
Ond bydd yr ymgyrch dros gyfiawnder hinsawdd a dyled hinsawdd yn parhau.
Ers methu cael mynediad i Ganolfan Bella, bum yn treulio mwy o amser yn y Klima Forum ac roedd yn drawiadol iawn pa mor fywiog oedd hi yno.
Yma 'roedd mudiadau gwirfoddol ac asiantaethau ymgyrchu wedi trefnu cynhadledd pythefnos mewn canolfan chwaraeon i gyd-fynd 芒 COP15.
Yma bu trafodaethau synhwyrol, egniol ac adeiladol - yn llawer mwy positif na'r hyn ddigwyddai yn Bela.
Yn anffodus profwyd diffyg dychymyg, diffyg cyfrifoldeb a diffyg arweiniad yn ystod COP15 ac yn awr mae Cymorth Cristnogol yn galw ar yr arweinyddion a'r negydwyr i ailystyried eu cyfrifoldeb moesol, a bod yn llawer mwy uchelgeisiol.
Dyw hi ddim syndod bod rhai gwledydd wedi gwrthod arwyddo'r ddogfen.
Y tlotaf yn ddewraf
Dychwelaf o Copenhagen yn ymwybodol o'r methiant a bydd yn rhaid inni fel grwpiau ymgyrchu edrych ar ein hunain ac ystyried beth oedd y gwendidau yn ein dulliau lobio ni hefyd.
Y gwledydd lleiaf a'r tlotaf fu'r lleisiau dewraf dros y pythefnos diwethaf. Y cynrychiolwyr lleiaf pwerus oedd y rhai mwyaf uchelgeisiol o ran gweledigaeth a gobaith i'r byd.
A bydd y gwledydd tlawd, distadl yn parhau i gynhyrfu ac ymgyrchu i ryddhau gobaith.
Ar draws y ddinas roedd hysbysfyrddau yn cyhoeddi bod Copenhagen yn galw ei hun yn Hopenhagen dros gyfnod yr Uwchgynhadledd.
O ble y daw gobaith?
Ar drothwy'r Nadolig y mae cwestiwn pwysig yn aros - o ble y daw gobaith? Yn sicr, o edrych yn 么l i Hopenhagen nid o dai gwynion yr arlywyddion; nid o balasau'r brenhinoedd na llysoedd y gwladweinwyr ond o'r mannau annisgwyl - o'r cyrion, o'r gwaelodion - y daw gobaith a goleuni. Parhaed yr ymgyrchu a pharhaed gobaith.
Diolch am ddod gyda ni i Copenhagen, a rhannu rhywfaint ar y daith. Diolch i'm cyd deithydd, Branwen Niclas, am olygu a rhoi trefn ar y blogiau hyn.