Y Testament Newydd i'ch ff么n symudol...
Mae'n bosib darllen y Testament Newydd ar ff么n symudol erbyn hyn - diolch i wefan beibl.net.
Arfon Jones fu'n s么n am y gwasanaeth wrth John Roberts ar Bwrw Golwg ar 大象传媒 Radio Cymru ddydd Sul Medi 27 2009.
I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
Eglurodd y gellir dadlwytho y Testament Newydd yn rhad ac am ddim i unrhyw ff么n symudol sy'n defnyddio Java .
Ychwanegodd i "nifer fawr o bobol ifanc" gysylltu yn gwerthfawrogi'r gwasanaeth newydd.
Mae'r gwasanaeth yn galluogi hefyd i ddefnyddir chwilio am unrhyw lyfr, unrhyw bennod, unrhyw adnod.
"Da chi hyd yn oed yn gallu chwilio am air . . . a pha adnodau mae o ynddyn nhw," meddai.
"Ein hawydd ni ydi gweld pobl yn darllen y Testament Newydd ac yn ei ddeall o ac yn dod i ddeall y neges sydd gan Iesu Grist," ychwanegodd.