大象传媒

Dinistr Japan - agwedd y bobl

Difrod yn Japan

Mis Mawrth 2011

Ar y rhaglen Bwrw Golwg ddydd Sul, Mawrth 29, 2011, cafwyd cip ar sut y mae pobl Japan yn ymateb i'r dinisttr enbyd yn y wlad yn dilyn y daeargryn a'r tsunami diweddar.

Gellir gwrando yma ar y sgwrs rhwng John Roberts, cyflwynydd Bwrw Golwg a Catharine Hughes Nagashima, sydd yn byw yn Japan.

I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.

Mae Catharine Hughes Nagashima yn byw i'r gogledd o Tokyo ond er i'r daeargryn gael ei deimlo yno yn gryfach nag erioed o'r blaen ac iddynt gael rhybudd tsunami dywedodd nad yw'r hyn a brofodd hi "yn ddim o'i gymharu 芒'r hyn sydd wedi digwydd" fwy i ogledd y wlad.

Dywedodd mai'r ymbelydredd oedd y testun y pryder mwyaf yr adeg yr oedd hi'n siarad.

Dywedodd ei bod yn rhan o hanfod pobl Japan i helpu ei gilydd yn eu byw bob dydd.

"Mae hon yn wlad y mae daeargrynfeydd yn digwydd yn aml yma ond dydy nhw rioed wedi cael un cyn waethed a hwn ond maen nhw'n gwybod sut i ddelio efo pethau fel hyn ac maen nhw'n helpu'i gilydd," meddai.

Ac yng nghanol yr holl lanast a difrod dywedodd mai ychydig iawn o achosion o ddwyn a fu yna fel sy'n digwydd mewn rhai gwledydd pan ddigwydd trychinebau tebyg.

"Ar y cyfan dydyn nhw ddim yn dwyn yn Japan ac mae yna draddodiad cryf o helpu'i gilydd.

"Os ydych chi'n meddwl am amaethyddiaeth y wlad yma, pobl sy'n bwyta reis ydyn nhw ac er mwyn tyfu reis mae'n rhaid cydweithio efo pobl eraill.

"Fedrwch chi ddim tyfu reis ar eich pen eich hun; rydych chi'n rhannu'r un d诺r yn rhedeg i lawr o'r mynydd at y m么r felly maen nhw'n gorfod cydweithio a dwi'n meddwl bod hynny'n rhan o'r traddodiad," meddai.

骋飞别诲诲茂辞

Bu'n s么n hefyd am gydweithio rhwng crefyddau ac er nad yn bobl grefyddol iawn dywedodd eu bod yn credu mewn gwedd茂o.

"Os oes yna rywbeth yn digwydd fel sy'n digwydd r诺an . . . yr unig beth fedrwch chi wneud ydi gwedd茂o. Mae'r ysbryd gwedd茂o gan bawb," meddai.

Mae gwedd茂o meddai ar ddiwrnod arbennig a hefyd ar gyfer achlysuron arbennig fel arholiadau.

Ond yn ystod yr argyfwng presennol does yna ddim amser i dyrru i demlau i wedd茂o'n ffurfiol.

"Maen nhw'n rhy brysur efo'u bywyd beunyddiol. Wyddoch chi, rydym ni heb drydan hanner y dydd . . . does yna ddim canhwyllau i'w cael yn y siopau a does yna ddim batris i dortsus a does yna ddim llefrith i'w gael, dim bara i'w cael ac mae pobl yn rhy brysur yn gwneud y pethau ymarferol [i gael amser i fynd i deml i wedd茂o].

"Maen nhw yn gwedd茂o, yn casglu at ei gilydd i wedd茂o ond dydw i ddim yn meddwl eu bod nhw'n mynd gymaint i'r temlau ar hyn o bryd ond ella bod y Cristnogion yn mynd i'r eglwysi fwy," meddai.

Dioddef heb gwyno

Soniodd hefyd am bwysigrwydd yr hyn a alwodd yn 'gaman' ar adegau fel hon.

"Dioddef heb gwyno ydi 'gaman'. Mae yna agwedd ysbrydol iddo fo hefyd dwi'n meddwl ond os ydych chi'n cwyno mae pethau'n mynd yn negyddol yn dydyn. Ond os ydych chi'n dioddef heb gwyno, yn enwedig os ydych chi yn medru rhoi gw锚n ar eich hwyneb ar yr un pryd mae'r sbeiral yn mynd i fyny yn lle ei fod yn mynd i lawr.

"Mae 'gaman' yn rhywbeth yr ydym ni'n ei wneud drwy'r amser. Os ydi plant yn dechrau cwyno mae'r rhieni yn dweud wrthyn nhw, 'Gwna gaman'.

"Ac maen nhw'n meddwl ei fod yn rhan bwysig o addysg i blant. Os ydi plentyn eisiau rhywbeth - fel anrheg Nadolig - maen nhw'n fod i wneud dipyn bach o 'gaman' cyn ei gael o ac wedyn fe wna nhw ei werthfawrogi o fwy.

"Dyna'r syniad . . . ac ystyr 'gaman' yn y sefyllfa yma ydi trio gwenu a pheidio cwyno er mwyn trio codi ysbryd y bobl o'ch cwmpas chi.

"Mae yna griw o bobl ifanc drws nesaf sydd yn gwir, wir, codi ysbryd y bobl o'u cwmpas oherwydd y ffordd y maen nhw'n helpu'i gilydd ac yn cario mlaen heb gwyno."

Mewn ofn

Disgrifiodd hefyd fyw mewn ofn o ddaeargryn arall a pheryglon ymbelydredd.

"Mae gennym ni rycsacs a bagiau yn barod i ddengid os bydd yn tsunami . . . Da ni gyd yn gwisgo masg pan ydym ni'n mynd allan achos mae yna radiation yn barod, da ni'n gwybod hynny, ond mae'n anodd gwybod sut i baratoi mae yna gymaint o bethau allasai ddigwydd," meddai.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.