大象传媒

Posteri heriol - ymateb claear!

Y tri phoster

18 Ionawr 2010

Dau arbenigwr o Gymru yn ymateb i bosteri gyda neges gan dri o arweinwyr ysbrydol y byd

Claear fu ymateb dau arbenigwr ar y rhaglen radio Bwrw Golwg i dri phoster crefyddol newydd.

Cyhoeddwyd y tri phoster yn darlunio tri o arweinwyr ysbrydol mawr y byd gyda dyfyniad gan bob un ohonyn nhw gan gwmni Twenty-Five Educational - cwmni sy'n arbenigo mewn cynhyrchu defnyddiau crefyddol ar gyfer capeli, eglwysi a chymdeithasau.

Y tri wyneb ar y posteri yw y Dalai Lama, Aung San Suu Kyi a Desmond Tutu a chafwyd caniat芒d y tri i gynnwys dyfyniad o'u heiddo yn Saesneg.

I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.

Y dyfyniadau yw:

  • "Mae'r traddodiadau crefyddol mawr i gyd yn cyhoeddi yr un neges sylfaenol o gariad, tosturi a maddeuant. Y peth pwysig yw eu bod yn rhan o'n bywyd beunyddiol - Ei Sancteiddrwydd y Dalai Lama.
  • "Ni all gwerthoedd y rhai sydd 芒 grym a gwerthoedd y rhai sydd ymhell oddi wrth rym fod yr un fath. Mae safbwynt y breintiedig un wahanol i un y difreintiedig - Aung San Suu Kyi.
  • "Nid oes gen i ddiddordeb derbyn briwsion tosturi oddi ar fwrdd rhywun sy'n ystyried ei hun yn feistr arnaf. Yr ydw i eisiau holl arlwy hawliau - Archesgob Desmond Tutu.

'Grymus a heriol'

Er i'r posteri gael eu disgrifio fel rhai "grymus a heriol" digon llugoer oedd y ddau arbenigwr a wahoddwyd ar Bwrw Golwg ddydd Sul Ionawr 17 2010 i'w trafod gyda'r cyflwynydd, John Roberts.

Yn weinidog ac yn swyddog cyhoeddusrwydd yr oedd Gethin Russell-Jones yn amau effeithiolrwydd posteri beth bynnag o gymharu 芒 derbyn neges yn uniongyrchol oddi wrth unigolyn yr ydych yn ei adnabod.

Ac ychwanegodd mai cyfryngau newydd fel Twitter yw'r dull cyfoes o gyfathrebu sy'n cael ei ffafrio.

Ymateb pobl ifainc

"Anodd gweld beth yw eu pwrpas ac anodd gweld sut y bydd pobl ifainc yn ymgymryd a'r holl beth - mae'r rhain yn ddiddorol ond nid yn newid rhyw lawer iawn," meddai am y posteri.

Yr oedd y darlledwr Glynog Davies sydd hefyd yn gadeirydd Bwrdd Bywyd a Thystiolaeth y Presbyteriaid yn croesawu fodd bynnag natur heriol y negeseuon.

"Mae eisiau neges heriol oherwydd ar hyn o bryd rydym ni mewn rhigol. Mae eisiau'n hysgwyd ni. Mae eisiau inni dderbyn o'r newydd beth mae'n ffydd ni yn ei olygu inni," meddai.

Ond er bod negeseuon y posteri yn rhai grymus dywedodd bod angen hefyd arwain pobl "i sylweddoli beth sydd tu 么l i'r wyneb [a chael] rhywun i egluro o bosib."

Galwodd hefyd am ffyrdd gwahanol o gyfathrebu sy'n gydnaws 芒'r oes.

"Mae'n rhaid inni gyfathrebu mewn ffyrdd slic a chyfoes, mae'n rhaid inni ddefnyddio'r we mae'n rhaid inni feddwl am bob ffordd bosib o fynd drwodd at y bobol," meddai.

"Ac arbrofi efo pob dim sydd ar gael."

Pwysleisiodd ef hefyd bwysigrwydd ymddangos yn hapus fel Cristnogion.

"[Mae] miliynau o bobl yn dod i ddeall y byd trwy gyfryngau newydd fel Twitter erbyn heddiw, " meddai Gethin Russell-Jones.

Yn Saesneg

Dyma eiriau'r posteri fel yr ymddangosant yn y Saesneg:

  • "All major religious traditions carry basically the same message, that is love, compassion and forgiveness. The important thing is they should be part of our daily lives." His Holiness the Dalai Lama.
  • "The value systems of those with access to power and of those far removed from such access cannot be the same. The viewpoint of the privileged is unlike that of the underprivileged." Aung San Suu Kyi.
  • "I am not interested in picking up crumbs of compassion thrown from the table of someone who considers himself my master. I want the full menu of rights." The Most Revd Archbishop Desmond Tutu.

Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.