Pwyso a mesur ac edrych ymlaen yn dilyn Cymanfa Gyffredinol Medi 2010 yn Llambed
15 Medi 2010
Rhybudd Ysgrifennydd Cyffredin wrth ymddeol
Daeth rhybudd arall bod yr Eglwys Bresbyteraidd mewn peryg o dreulio gormod o amser yn edrych ar 么l a chynnal adeiladau.
Wrth edrych yn 么l ar y rhaglen Bwrw Golwg ar ei gyfnod yn Ysgrifennydd Cyffredinol yr enwad dywedodd y Parchedig Ifan Roberts:
"Da ni'n dal i wario gormod ar adeiladau," meddai.
"Mi ddylem ni leihau llawer mwy ar ein hadeiladau a dod i ganolfannau a chanolbwyntio ar newid y dull rydym ni'n addoli a hefyd meddwl sut yr ydym ni am ddefnyddio'r dechnoleg fodern i gyflwyno y ffydd Gristnogol," meddai.
I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
Yr oedd Mr Roberts yn cael ei holi gan gyflwynydd y rhaglen, John Roberts, yn dilyn Cymanfa Gyffredinol y Presbyteriaid yn Llambed lle'r oedd Ifan Roberts yn ymddeol wedi wyth mlynedd o wasanaeth.
Gofynnodd John Roberts iddo am ei deimladau o fod yn gadael ei swydd a 15,000 yn llai o aelodau na phan ddechreuodd - lleihad o un rhan o dair.
"Mae hynny'n siomedig a rhaid i mi gyfaddef nad ydw i wedi gweld cynnydd ysbrydol mawr yn Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn ystod yr wyth mlynedd ddiwethaf yma ond mae yna bobl ffyddlon iawn, mae yna bobl o ffydd ac argyhoeddiad o fewn ein heglwysi ac mae gennym ni brosiectau lle'r ydym ni'n estyn allan i'r gymuned," meddai.
Dywedodd bod enciliad yn duedd gyffredin yn y gymdeithas sydd ohoni.
"Dyma'r trend ynde - nid yn unig o fewn yr eglwys ond o fewn mudiadau eraill; undebau llafur ac yn y blaen, pleidiau gwleidyddol.
"Dydi pobl ddim eisiau bod yn aelodau bellach; ddim yn barod i gomitio eu hunain er bod yna bobl sydd yn dod yn ffyddlon iawn heglwysi ni [ond] ddim eisiau bod yn aelodau," meddai.
Gofynnodd John Roberts, "Ydych chi wedi newid digon i ateb gofynion yr oes?"
"Na, dydw i ddim yn credu ein bod ni o safbwynt addoli ac o safbwynt ein defnydd o dechnoleg fodern," meddai, "a da ni'n dal i wario gormod ar adeiladau mi ddylem ni leihau llawer mwy ar ein hadeiladau a dod i ganolfannau a chanolbwyntio ar newid y dull rydym ni'n addoli a hefyd meddwl sut yr ydym ni am ddefnyddio'r dechnoleg fodern i gyflwyno y ffydd Gristnogol," meddai.
Yr her wedi newid
Ar yr un rhaglen, dywedodd Dafydd Andrew Jones, cyfarwyddwr Bwrdd Bywyd a Thystiolaeth yr enwad sydd hefyd wedi ymddeol, fod "yr her" sy'n wynebu'r enwad wedi "newid rhyw dipyn" o safbwynt cenhadaeth.
"Dwi'n credu bod her seciwlariaeth yn fwy amlwg os nad yn fwy bygythiol erbyn heddiw a dwi'n meddwl bod dylanwad gwyddoniaeth ffasiynol fel petae yn hydreiddiol.
"Ac yn wyneb hynny i gyd dwi'n meddwl bod y sefyllfa wedi newid a hefyd, wrth gwrs, bod yn rhaid inni sylweddoli mai nid mater i academyddion ydi mynd i ddadlau pwyntiau diwinyddol yngl欧n 芒 bodolaeth Duw; mae o'n fater i bob un ohonom ni i sicrhau ein bod ni yn cadarnhau ein cred ym modolaeth Duw yng Nghrist trwy fod ein bywyd ni drwyddo draw yn adlewyrchu y gwahaniaeth hwnnw," meddai.
Cytunodd hefyd bod yr hyn a alwodd John Roberts yn "ysbrydolrwydd amwys di gyfeiriad" hefyd yn ffactor.
"Mae yna rywfaint o weddillion ffydd sydd bron a throi yn chwedloniaeth.
"Un arwydd o hynny ydi'r allorau yma sydd ar fin ffordd, er enghraifft, neu y ceisiadau achlysurol y mae rhywun yn ei gael i fedyddio er enghraifft.
"Mae yna rhyw weddill o ffydd ar 么l . . . [a] faswn i ddim yn ei gondemnio o gwbwl y peth ydw i eisiau ei ofyn ydi, 'Os mai fan yna mae pobl ar hyn o bryd sut ydym ni fel Cristnogion yn gallu eu cyfarfod nhw fan lle maen nhw a'u harwain i weld rhagoriaeth Crist sydd i ni, beth bynnag, yn cyflawni pob peth, sy'n cyfannu bywyd'.
"A dyna pam rydw i'n anhapus efo unrhyw fath o raniadau.
"Dwi'n gwybod bod yna amrywiadau o reidrwydd yn bod ond [yn pryderu] bod yr amrywiadau yn mynd yn wahaniaethau sy'n gwahanu," meddai.
Pwyslais ar waredwr goruwch naturiol
Yn cymryd awenau yr Ysgrifennydd Cyffredinol oddi ar Ifan Roberts dywedodd y Parchedig Bryn Williams ar y rhaglen bod gostyngiad o un rhan o dair yn golygu hefyd, ar yr ochr gadarnhaol, bod dwy ran o dair wedi aros.
Golyga hynny 30,000 o aelodau, 3,000 o flaenoriaid, 60 o weinidogion, 31 o weithwyr cenhadol a 21 o weithwyr plant a phobl ifainc.
"Ac mae gennym ni waredwr, Iesu Grist, wedi concro angau a'r bedd," meddai.
"Mae gennym ni Dduw goruwch naturiol fedr newid y sefyllfaoedd a dwi'n meddwl mai'r ffordd iawn i Eglwys Bresbyteraidd Cymru ydi yn gadarnhaol gan atgoffa ein pobl mai Duw goruwch naturiol yn alluog i newid sefyllfaoedd ydi ein Duw ni," meddai.