大象传媒

Eglwys Dewi Sant Toronto

Y Parchedig Deian Evans gyda rhai o arweinwyr yr eglwys a'i dad, Irfon Evans, ail o'r chwith. Llun oddi ar wefan yr eglwys.

24 Chwefror 2010

Cyfarchion G诺yl Dewi o Eglwys Gymraeg Dewi Sant, Toronto gan y gweinidog Y Parchedig Deian E Evans

Bellach aeth bron i chwe blynedd heibio ers imi ddechrau yn fy ngofalaeth dramor, yn yr unig Eglwys Gymraeg yng Nghanada, yma yn Nhoronto.

Rwyf bellach wedi cael amser i hen setlo yn fy nghynefin newydd ac wedi cael y cyfle i fyfyrio dipyn ar gyflwr ysbrydol y wlad hon, ac, yn fwyaf arbennig, agwedd tuag at y ffydd ymhlith Cymry y ddinas.

Beth am rannu hanes eich eglwys neu eich cymuned chi gyda darllenwyr y wefan hon? E-bostiwch crefydd@bbc.co.uk

Yn gyntaf, mae hi yn amhosibl cymharu Cymru a Chanada am fod y feddylfryd a'r amgylchedd yn gwbl wahanol.

Mae tri chant o aelodau yn Eglwys Dewi Sant, a thua hanner y rheiny yn addoli yn yr Eglwys pan na fyddant ar daith yn Florida dros dri mis y Gaeaf neu yng Nghymru dros yr haf.

Mae'n arferol cael rhwng 70 a 100 o aelodau yn addoli yn y gwasanaeth ar fore Sul, sydd yn bennaf drwy gyfrwng y Saesneg, a rhwng 40 a 60 yn addoli yng ngwasanaeth Cymraeg nos Sul cyntaf pob mis.

Buan iawn y deuthum i sylweddoli, fodd bynnag, nad dod yma ar gyfer y gwasanaeth yn unig a wna nifer o'r bobl hyn ond hefyd er mwyn cymdeithasu.

Mae y te wedi'r oedfa yn bwysig iawn; yn gyfle iddynt drin a thrafod materion Cymreig a Chymraeg ac yn gyfle i minnau wneud gwaith bugeiliol.

Nid awr y gwasanaeth sy'n bwysig, ond y tair awr o gyrraedd yr Eglwys hyd at y ffarwel olaf am yr wythnos.

Canolfan grefyddol a chymdeithasol

Mae'n werth nodi fod yr Eglwys yn bwysig iawn fel canolfan grefyddol a chymdeithasol, a dyna pam y mae rhai aelodau yn barod i deithio hyd at ddwy awr - un ffordd - er mwyn mynychu oedfa.

Mae crefydd yn bwysig iawn yng ngolwg yr aelodau, a chrefydd yn golygu gweithio dros Grist.

O fewn yr Eglwys Dewi Sant, a phob eglwys arall sy'n perthyn i Eglwys Unedig Canada, mae rhaglenni gweithgaredd cymunedol yn greiddiol gyda'r holl aelodau yn cyfrannu amser, galluoedd a chyllid er lles anffodusion y ddinas a thu hwnt.

Felly nid agwedd neu feddylfryd Cristion awr yr wythnos a welir yma ond y Cristion sy'n chwilio am gyfleon i wella cyflwr eraill, o ddydd i ddydd.

Byddaf yn ymwneud 芒 gweithgareddau o'r fath bron bob dydd wrth weithio yn fy swyddfa yn yr Eglwys. Mae'n braf gweld cynifer yn rhoi cymaint er lles eraill, ac yn gwneud hynny yn llawen ac yn naturiol.

Heb ffug barchusrwydd

Mae 'Parch' at eraill yn wahanol iawn yma! Does dim 'ffug barchusrwydd' a disgwyl cadw at reolau yn ymwneud 芒 'beth sydd i fod'.

Un peth sy'n dal sylw yr ymwelydd yw'r anffurfioldeb yn y gwisgo - pawb yn daclus, ond y gweinidog yn unig sy'n gwisgo crys a thei!

Mae pawb yn cael ei gyfarch wrth ei enw cyntaf, pawb yn gyfartal, a phob person, ta waeth o ba gefndir, yn cael ei gyfrif yn bwysig.

Dyna pam, mae'n debyg, fod Dewi Sant bellach yn denu pobol o gefndir ehangach na Chymru.

Yn y gwasanaeth fore Sul diwethaf roedd rhai yn wreiddiol o wyth gwlad yn addoli, a rhai a fyddai yn aelodau o chwe enwad ac yn addoli ar wah芒n pe byddent yn byw yng Nghymru, gan gynnwys Catholigion a rhai Uniongred, a hyd yn oed Hind诺 ac Iddew!

Drws agored, lled y pen. Croeso i bawb addoli yn enw yr Arglwydd. Cyfle i gredinwyr gyd-wedd茂o i Dduw sydd yn un Duw inni oll.

Dyna bleser, a her, yw hyn i mi fel gweinidog Eglwys Gymraeg Dewi Sant, Toronto.

Dydd G诺yl Dewi

Ond beth am Ddydd G诺yl Dewi?
Mae'n benwythnos - yn wir, yn wythnos - o brysurdeb a hwyl. Byddwn yn dechrau y dathlu ar fore Sul, Chwefror 28 gyda Gwasanaeth ar thema genedlaethol Gymreig, gyda'r uchafbwynt o ganu yr Anthem Genedlaethol (Gymraeg wrth gwrs!!) ar ddiwedd y gwasanaeth.

Ar Ddydd ein Nawddsant cynhelir seremoni a ddechreuais ar y cyd gyda chynghorydd dinesig, Cliff Jenkins, bedair blynedd yn 么l, sef seremoni codi Baner y Ddraig Goch uwchben Prif Adeilad Llywodraeth y ddinas, yn Sgw芒r Nathan Phillips.

Eleni bydd Maer y Ddinas, David Miller, yn rhannu yn y dathlu ac yn bresennol hefyd bydd bechgyn C么r Meibion Cymraeg Toronto (a minnau, fel aelod o'r c么r yn eu plith), yn arwain canu yr Anthem.

Gyda'r nos ar Fawrth 1 bydd Cyngerdd Mawreddog dan arweiniad C么r Meibion Toronto a disgwylir yn y neuadd dros 300 o gynulleidfa o dras Gymreig.

Ar y nos Sadwrn ganlynol byddwn yn dathlu mewn Gwledd dan nawdd Cymdeithas Gymraeg Toronto, gyda G诺r Gwadd o Gymru, y Parchedig. Eldon Phillips, yn ein diddori gyda'i straeon difyr.

Bydd y dathlu yn dirwyn i ben nos Sul, Mawrth 7, yn y Gwasanaeth Cymraeg yn Eglwys Dewi Sant gydag aelodau y dosbarthiadau Cymraeg, dan arweiniad eu hyfforddwyr, John Otley ac Annette Evans, yn cymryd rhannau agoriadol y gwasanaeth - yn y Gymraeg wrth gwrs.

Byddaf innau yn cyhoeddi enwau enillwyr eisteddfod flynyddol y dysgwyr, Toronto, ac yn cyflwyno tlysau a thystysgrifau clod iddynt.

Ar adegau fel cyfnod G诺yl Dewi mae'n anodd credu fy mod yn byw mor bell o Gymru!


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.