大象传媒

Pobl a'u cred: Elfed ap Nefydd Roberts, Cristion

In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions

31 Mawrth 2010

Elfed ap Nefydd Roberts - gweinidog, ysgolhaig a diwinydd

Natur nid niferoedd

Nid y niferoedd mewn cynulleidfaoedd sy'n bwysig ond natur y cynulleidfaoedd yn 么l y Parchedig Elfed ap Nefydd Roberts.

"Dwi'n cofio rhywun yn dweud wrtha i 'ychydig flynyddoedd yn 么l, ar 么l iddo dreulio tua deugain mlynedd yn America . . . [bod] . . . cynulleidfaoedd yn llawer iawn llai [yno] ond yn llawer iawn mwy cyfeillgar," meddai.

"Ac roeddwn i'n meddwl fod hwnnw yn beth arwyddocaol iawn. Nid niferoedd sydd yn bwysig yn y diwedd, ond os ydym ni wedi dod i bwynt lle rydym ni'n creu unedau llai falle ond sy'n fwy cynnes ac yn fwy cyfeillgar, ac yn gymdeithasau Cristnogol go iawn, mae hwnna yn rhywbeth manteisiol," ychwanegodd.

Wrth drafod sail ei gred dywedodd mai "Cred yn y Duw sydd wedi datguddio ei hun, yn Iesu Grist," yw ei un ef.

"Wedi dweud hynny, dwi'n meddwl bod rhaid i ni gamu y tu 么l i'r datganiad yna a dweud bod yna yn yr ymwybyddiaeth grefyddol rhyw deimlad o realiti tu draw i'r byd a'r bywyd hwn.

"Dyma ble mae pob crefydd yn cychwyn. Gyda'r ymwybyddiaeth fod yna fwy i fywyd na'r hyn yr ydym ni yn ei weld o'n cwmpas ni bob dydd. Mwy na'n bodolaeth faterol rhwng geni a marw.

"A dweud y gwir tydi bod yn anghydffurfiwr ddim yn bwysig i mi naill ffordd neu'r llall. Dwi'n meddwl bod llawer iawn ohonom ni'r hyn ydym ni o safbwynt enwad a thraddodiad Cristnogol am y rheswm syml ein bod wedi cael ein geni o fewn rhyw draddodiad arbennig. Ges i fy ngeni o fewn Methodistiaeth Galfinaidd," meddai.

Elfed ap Nefydd Roberts

  • Yn weinidog wedi ymddeol gyda'r Presbyteriaid mae'r Parchedig Elfed ap Nefydd Roberts yn byw yn Wrecsam

    Yn ddiwinydd blaenllaw mae'n awdur nifer o lyfrau ac yn cyfrannu colofn wythnosol i Y Cymro ar faes llafur yr Ysgol Sul.

    Mae hefyd yn bregethwr poblogaidd ac yn ddarlledwr.

    Yn frodor o Rhuddlan, fe'i haddysgwyd ym mhrifysgolion Bangor a Chaergrawnt a bu'n weinidog yn Llanelli ac yna yng Nghapel Twrgwyn, Bangor.

    Penodwyd ef yn Brifathro'r Coleg Diwinyddol Unedig Aberystwyth yn 1980 gan ddychwelyd i'r weinidogaeth yn 1997 yng Nghapel y Groes, Wrecsam.

    Derbyniodd radd Doethur mewn Diwinyddiaeth gan Brifysgol Cymru yn 2000 a derbyniodd Gymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Bangor 2008.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.