大象传媒

In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions

Y Prifardd Elwyn Edwards

08 Ebrill 2010

Dywed y Prifardd Elwyn Edwards y gall y meirw gysylltu ag ef

Darganfod dawn ryfeddol ar ddamwain

Ar ddamwain, meddai, y darganfu'r Prifardd Elwyn Edwards o'r Bala fod ganddo'r "ddawn" i gysylltu 芒'r meirw.

"Mynd i d欧 i brynu carpedi ac yno'n gweithio'n codi'r carpedi . . . ac yn . . . un stafell, roedd hi'n oer a gwynt oer rownd fy ngwddw, blew fy mreichiau yn sefyll ar eu pennau a rhywun yn cymryd fy nghorff i drosodd," meddai am ei brofiad cyntaf.

"[Allwn i ddim] deall beth oedd yn digwydd imi ac yn y fan honno nes i gychwyn.

"A dyma'r glec uchel 'ma drwy'r lle. Digwyddodd hyn bump neu chwech o weithiau trwy'r adeg fuon ni yn y t欧, a doeddwn i ddim callach beth oedd yn mynd ymlaen.

"Ond cyfarfod person oedd wedi byw yn y t欧 wedyn, a hwnnw yn dweud . . . ei fod o wedi cael yr un peth pan oedd yno. Adeg hynny wnes i sylwi mae'n rhaid bod ysbryd yn ymyrryd yna," meddai.

Anodd argyhoeddi

Oherwydd yr anhawster roedd o'n ei gael i argyhoeddi eraill fod y cysylltiad hwn yn bosibl dywedodd iddo roi'r gorau i geisio'u perswadio.

"Dwi'n gwybod eu bod yn bod [ysbrydion], ac mae'r bobl dwi'n eu helpu yn gwybod yn iawn eu bod yn bod. Achos yn aml iawn, mae 'na deuluoedd yn dod trwodd, ac yn adrodd pethau trwyddo i nad oeddwn i fod i'w gwybod," meddai.

Ei fagu'n Gristion

Ond sut mae hyn yn effeithio ar ei fagwraeth yn Gristion?

"Mi ges i fy magu yn y capel. Ges i fy magu yn y ffydd Gristnogol. Mi oeddwn i'n gorfod mynd i'r capel pan oeddwn yn blentyn [a] wnaeth o ddim drwg imi.

"Ond fyddai ddim yn mynd i'r capel r诺an ond mae'r ffydd yn dal gen i. Dim rhaid i chi fynd i addoli i ganol criw o bobl, mi allwch chi wneud o adre eich hun beth bynnag," meddai.

Ymateb ffrindiau

Soniodd hefyd am ymateb cymysg cyfeillion.

"Mae yna rai yn credu beth dwi'n ei wneud. Mae eraill yn gwybod fy mod i'n medru helpu gan fy mod i wedi bod yn eu cartrefi nhw - ond ar y cyfan dwi ddim yn cael llawer o row am beth dwi'n ei wneud. Dwi'n cael gan ambell un.

Mi oedd yna rywun crefyddol iawn wedi bod yn fy mhen i yn y stryd mod i'n ymyrryd efo'r meirw pnd roedd o'n amlwg i mi [nad oedd o'n] gwybod beth oedd yn mynd ymlaen, achos y meirw sydd yn ymyrryd efo ni [mewn gwirionedd].

"Dyna pam y byddai'n mynd i'r cartrefi. A beth bynnag medda fi wrtho, 'Ti'n ddyn capel mawr, ti'n addoli person sydd wedi marw ers dwy fil o flynyddoedd, sef Crist. Beth ydy hwn i ti? Ysbryd ydy Crist yn de?'" meddai.

Elwyn Edwards

Elwyn Edwards

  • Ganwyd y Prifardd Elwyn Edwards yn Y Frongoch ger Y Bala yn 1943.

    Enillodd gadair yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghasnewydd, 1988.

    Mae'n swyddog cynorthwyol gyda Chymdeithas Barddas ac wedi cyhoeddi nifer o lyfrau gan gynnwys Byd yr Ysbrydion yn 1998 lle mae'n s么n am ei brofiadau ysbrydegol a pharanormal gyda'i gyfaill y diweddar Brifardd Elwyn Roberts gan gynnwys cysylltiad ysbrydegol ag enwogion cenedlaethol fel Llywelyn ein Llyw Olaf, Llywarch Hen ac Owain Glynd诺r.

    Cyhoeddodd ei gasgliad cyntaf o farddoniaeth, , Aelwyd Gwlad yn yn 1997 a'i gyfrol ddiweddaraf cyn y Nadolig 2010, Cynefin.

    Yn ogystal 芒 bod yn awdur ei hun mae'n olygydd sawl cyfrol hefyd gan gynnwys Yr Awen Lawen, blodeugerdd Barddas o gerddi ysgafn a Cadwn y Mur, blodeugerdd Barddas o gerddi gwladgarol.

    Ef hefyd oedd golygydd y gyfrol am D Tecwyn Lloyd yn y gyfres Bro a Bywyd.

    Mae'n gynghorydd ac yn awdurdod ar hanes Tryweryn.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.