Ffred Ffransis yn sgwrsio gyda Dewi Llwyd ar ei raglen bore Sul ar 大象传媒 Radio Cymru
29 Mawrth 2010
I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
Unoliaeth bywyd sy'n bwysig i Ffred Ffransis, yr ymgyrgydd iaith a dyn busnes.
Bu'n s么n wrth Dewi Llwyd am ei Sul arferol ac am ei agwedd tuag at grefydd fore Sul Mawrth 29 2010.
Bywyd nid crefydd
Holodd a yw yn mynd at ei grefydd gyda'r un s锚l ag a ddangosodd dros y blynyddoedd tuag at ei ymgyrchoedd iaith.
Meddai Ffred Ffransis: "I ddechrau fuaswn i ddim yn lecio s么n am fynd at grefydd fel y cyfryw. Bywyd ydi o yn hytrach na chrefydd ond yn gyffredinol mi ddyle bywyd fod yn fywyd yn hytrach na meddwl yn nhermau dynodi rhyw ddwy dair awr i grefydd, dwy dair awr i wleidydda ac yn y blaen ac yn y blaen fel pe bydden nhw yn rhai o'ch hoff raglenni teledu neu radio . Unoliaeth bywyd sy'n bwysig ."
Y Sul Cymreig
Dywedodd nad yw'n gwneud ymdrech arbennig "i gadw draw o unrhyw waith ar y Sul".
"Dim fel y cyfryw," meddai. "Mae'r Sul Cymreig wedi bod - ers y cyfnod pan wnes i dyfu fyny a'r cyfnod yn fwyaf arbennig cyn hynny - yn Sul o beidio gwneud hwn, peidio gwneud hwn. peidio gwneud hwn. Wel, ymateb Iesu i bobl o'r fath yna, yn weddol blaen yn y Testament Newydd, [yw]: os gwelwch chi ddaioni i'w neud, gwnewch o.
"Mae cyfystyru ffydd gyda peidio gwneud pethe wedi bod nid jyst yn gamgymeriad ond yn wyrdroad o'r ffydd Gristnogol."
Ond nid oedd am fynd cyn belled 芒 dweud ei bod yn beth da i Gymru fod wedi cefnu ar y Sul traddodiadol Cymreig.
"Pe bydden ni wedi cefnu er mwyn gwneud rhywbeth gwell byddai wedi bod yn beth da ond dyw cefnu er mwyn mynd lawr i siop DIY - jyst gwneud crefydd yn rhywbeth arall yw hynny.
"Mae'n ddigon hawdd peidio gwneud pethau - yr hyn ydym yn ei wneud mewn bywyd sy'n bwysig," meddai.
Effaith carchar
Holodd Dewi Llwyd ef hefyd faint o'i 么l adawodd bod yn y carchar arno:
"O tipyn. Dim ond pan fyddai yn y carchar mae gen i amser i ddarllen llyfrau a chreu gwahanol gynlluniau ar gyfer gwahanol brotestiadau.
"Efallai y byddai Cymru wedi bod dipyn mwy cyffrous yn y blynyddoedd diwethaf pe byddwn i wedi bod yn y carchar fwy.
"Nid fy newis i yw hynny. Doedd neb ohonom ni yn dewis mynd i garchar. Parodrwydd i fynd i garchar [ond] y sefydliad sydd yn penderfynu ond mae dyn yn gallu gwneud defnydd o unrhyw sefyllfa y mae'n cael ei hunan ynddi," meddai.
Mewn perygl
Soniodd hefyd am yr unig amser y teimlodd ei fod mewn perygl yn y carchar:
"Mae pawb mewn bywyd fel pe bydden nhw angen rhywun i edrych lawr arnyn nhw . . . ac mae carcharorion eisiau gwneud pwynt arbennig o edrych i lawr ar unrhyw un sydd wedi troseddu yn erbyn plant ac roedden nhw am gangio fyny ar y dyn yma ac yn y capel Methodist o bob man ac mi wnes i sefyll efo fo i wneud yn si诺r nad oedd dim byd yn digwydd iddo fo a dyna'r unig amser oeddwn i mewn perygl ond yr oedd gweld hunan gyfiawnder pobl yn reit ddiflas," meddai.
Pethau eraill
Yn ystod y sgwrs bu Ffred Ffransis yn siarad hefyd am Y Rhyl; ei hoffter o Elvis, dylanwad Gwynfor Evans, ffrwyth ymgyrchu a phlwyfoldeb Cymru.