大象传媒

Eglwys Tyddewi...Eglwys hynod o olwg y m么r

Eglwys Tyddewi

Un o hynodion cadeirlan Tyddewi yw ei bod wedi ei chuddio, o'r golwg yng nghysgod tir. Y rheswm dros guddio'r Eglwys o olwg y m么r ac i lawr yng nghwm afon Alun oedd i'w hamddiffyn rhag y Llychlynwyr oedd yn hwylio yno nid yn unig i fasnachu ond hefyd i ysbeilio.

Chweched ganrif

Adeiladwyd yr eglwys gyntaf yn y chweched ganrif ond fe'i dinistriwyd tua phedair gwaith rhwng yr wythfed a'r unfed ganrif ar ddeg.

Fe'i llosgwyd i'r llawr gan y Llychlynwyr yn 1078 a'r adeilad a godwyd wedi hynny a welwn heddiw.

Dysgu sgrifennu

Mynach o Dyddewi sy'n cael y clod o ddysgu Alfred, Brenin Lloegr, sut i sgrifennu.

Gwysiwyd Asser gan y brenin tua 880 i fynd o Dyddewi i Wessex i'w ddysgu.

Asser hefyd luniodd cofiant Alfred ond cymaint oedd cariad y mynach at Dyddewi fe'i gwnaeth yn amod mai dim ond hanner ei flwyddyn a dreuliai yn yr hyn a alwai'n Sacsoni ond y gweddill ym Mrytania - Tyddewi, mae'n debyg.

Siom Gerallt Gymro

Llenor y cysylltir ei enw 芒 Thyddewi yw Gerallt Gymro, y gwr a fethodd yn ei uchelgais i fod yn Esgob Tyddewi a gorfod bodloni ar fod yn Archddiacon.

Gyda'r Normaniaid yn llywodraethu yn myd yr eglwys, ac er bod Gerallt yn dri-chwarter Norman, yr oedd yn ormod o Gymro i gael ei ddyrchafu yn Esgob ac mae cofeb iddo yng Nghapel y Drindod yn ei ddarlunio gydag ysgrifbin yn ei law a'r cap esgobol wrth ei draed.

Adeiladu'r gadeirlan

Y trydydd o'r Esgobion Normanaidd, Peter de Leia o Fflorens, tua 1180, gynlluniodd a dechrau'r gwaith o adeiladu'r hyn a welir heddiw ond bu cyfraniad Gerallt yn fawr a thrwy hynny cafodd ei esgusodi rhag mynd i'r Trydydd Groesg芒d.

Hynny, a'i daith drwy Gymru gydag Archesgob Baldwin, Caergaint, yn annog y tywysogion Cymreig i ymuno yn y Groesg芒d.

Mae beddrod Gerallt yn yr Eglwys Gadeiriol a chredir mai yma, hefyd, y gorwedd yr Arglwydd Rhys ap Gruffydd a'i fab Rhys Grug dan feddrodau ar ffurf marchogion mewn gwisg milwr o'r bedwaredd-ganrif-ar-ddeg.

Gan fod Rhys ap Gruffydd yn farw yn 1196 byddai'r feddrod wedi ei llunio oddeutu dwy ganrif yn ddiweddarach, o bosib gan eu disgynyddion, teulu Talbot.

Dros y canrifoedd ychwanegwyd ati ond saif cynllun gwreiddiol Peter de Leia. Oherwydd lleithder y tir yn yr hen amser syrthiodd nifer o'r tyrau.

Heddiw, mae Eglwys Gadeiriol Tyddewi yn llecyn hyfryd ac yn "lle i enaid gael llonydd".


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.