Gall dinas leiaf Prydain ymffrostio mewn dau nawddsant.
Ond Dewi Sant yw'r prif reswm pam y bu'r hafan hynafol hon yn gyrchfan pererinion am yn agos i fil o flynyddoedd ac yn lle o bwys yn hanes Cristnogaeth am dros hanner mileniwm arall.
Mae gan Dyddewi bob hawl i hawlio ei dau nawddsant gael eu geni yma.
Dywed traddodiad i Badrig Sant, nawddsant Iwerddon, gael ei eni yng Nglyn Rhosyn ddiwedd y bedwaredd ganrif a nodir 375 a 389 fel blynyddoedd ei eni gan wahanol ffynonellau.
Cael ei gipio
Mae chwedl amdano'n cael ei gipio gan f么r-ladron a'i ddwyn i Iwerddon pan oedd tua 16 oed.
Dywed chwedl arall iddo ddychwelyd o Iwerddon ac yntau'n hen 诺r a'i fod yn pregethu yn Nhyddewi pan sylwodd ar ferch ifanc feichiog ymysg y dorf. Fei trawyd yn fud am ennyd.
Honnir iddo gael gweledigaeth y byddair baban yng nghroth y ferch yn tyfu'n sant a fyddai'n cwblhau'r gwaith o wneud Cymru yn wlad Gristnogol cwblhau'r gwaith a gychwynnwyd ganddo ef yn Nhyddewi.
Non oedd y ferch a Dewi y plentyn yn ei chroth.
Ger ffynnon
Dywedir i Ddewi gael ei eni ger Ffynnon Non, ar y darn o arfordir agored a gwyllt i'r de o Dyddewi.
O ddilyn llwybr yr arfordir o gwmpas Tyddewi mae cyfeiriadau at adfeilion hen Gapel Non y credir ei fod ymhlith yr hynaf o adeiladau crefyddol Cymru.
Gerllaw, mae capel arall, o'r ugeinfed ganrif.
Ar 么l cael ei addysg ym Mynachlog Hendygwyn ar Daf dychwelodd Dewi i'w fro enedigol, Glyn Rhosyn, i barhau gwaith Padrig.
Deniadol i'r Cymry
Yr oedd symlrwydd bywyd Dewi Ddyfrwr a'i ymwrthod 芒 phob moethusrwydd yn ddeniadol i'r Cymry tlawd yn ystod ei fywyd ac ar 么l ei farw.
Fei canoneiddiwyd gan y Pab Callixtus II yn y ddeuddegfed ganrif ac o hynny ymlaen ystyriwyd bod dwy bererindod i Dyddewi gystal ag un i Rufain.