大象传媒

Aled Jones

Aled Jones

Mae wyneb a llais Aled Jones yn gyfarwydd dros y byd i gyd ers iddo recordio'r g芒n Walking in the Air yn yr Wythdegau. Ond nid ei lais e sydd ar drac sain gwreiddiol y ffilm!

Dyddiau Cynnar

Mae'n rhyfedd meddwl bod y bachgen ifanc a swynodd pawb hefo'i lais Soprano yn yr Wythdegau yn ganol-oed erbyn hyn!

Ganwyd Aled Jones ar y 29 o Ragfyr yn 1970 ym Mangor. Magwyd Aled yn Llandegfan, Ynys M么n, ac fe ddechreuodd ganu'n wreiddiol fel aelod o g么r Eglwys Biwmares. Cafodd wahoddiad yn ddiweddarach i ganu yng ngh么r Cadeirlan Bangor ond fe ddaeth i amlygrwydd go iawn pan gyrhaeddodd ei sengl, 'Walking in the Air' o'r ffilm, 'The Snowman'. y pump uchaf yn siartiau'r Nadolig.

Ar 么l rhyddhau ei albwm gyntaf, fe gafodd wahoddiadau i gynnal cyngherddau ar draws y byd gan ganu gyda Cherddorfa Philarmonic Los Angeles yn yr Hollywood Bowl, gyda Leonard Bernstein yn y Barbican ac mewn perfformiad preifat ym Mhalas Buckingham i Dywysog a Thywysoges Cymru. Canodd hefyd ym mhriodas Paula Yates a Bob Geldof.

Mae ei recordiau o'r cyfnod hwn yn cynnwys Walking in the Air, Voices from the Holy Land a'r Ugly Duckling.

Y crwt yn troi'n ddyn

Ond prawf o'i enwogrwydd go iawn yn ystod y cyfnod hwn oedd iddo gael pyped Spitting Image wedi ei seilio arno!

Ar 么l astudio cerdd yn Academi Frenhinol Llundain, datgelodd Aled ei lais bariton aeddfed newydd yn sioe Andrew Lloyd Webber, Joseph and his Technicolour Dreamcoat.

Bellach mae'n wyneb a llais amlwg ar deledu a radio eto yn sg卯l ei ymddangosiadau ar raglenni fel 'Songs of Praise' ac 'On Show' ar y 大象传媒, Ar y Bocs ar S4C ac yn fwy diweddar ar 大象传媒 Radio Wales.

Mae'n byw gyda'i wraig Claire, a'u merch, Emilia, yn Barnes ger Llundain. Bu hefyd yn gwneud enw iddo ei hun fel dawnsiwr ar y gyfres Strictly Come Dancing.

Dal i ganu

Datgelodd ar raglen 'Showbusnesan' ar 大象传媒 Radio Cymru mai'r gystadleuaeth ddawnsio yma oedd y peth gorau iddo ei wneud yn ei fywyd erioed: "Wnes i ddim hyd yn oed dawnsio yn fy mhriodas. Pan o'n i yn yr ysgol, ro'n i yn y bar fel arfer yn gwylio pawb arall yn dawnsio, do'n i ddim yn medru gwneud o gwbl," meddai mewn cyfweliad ar y rhaglen gydag Ieuan Rhys.

"Mi wnes i Joseff am flwyddyn ac ro'n i'n ymwybodol mod i'n stiff ofnadwy, ddim yn medru symud. Ond mae hyn wedi bod yn brofiad anhygoel. Y peth gorau dwi wedi ei wneud yn fy mywyd erioed - mae'n well na canu, yn well na rhyddhau recordiau.

"Dwi'n teimlo yn gryfach, yn fwy hyderus, mae'r llais yn well a dwi'n sefyll yn well. A dwi wedi colli st么n a hanner o bwysau! Felly does dim ond da wedi dod ohono fo," ychwanegodd.

Mae'n parhau i recordio gyda'u albymau'n cyrraedd y platinum yn 2002 a'r aur yn ddiweddarach. Yn 2010 rhyddhaodd ei albwm Nadolig a llyfr am ei hoff garolau.


Llyfrnodi gyda:

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth

Artistiaid

A-Z o gerddorion ar wefan 大象传媒 Cymru.

Blwyddyn Gron

Calendr

Misoedd

Calendr yn llawn dyddiadau nodedig ac arferion Cymreig.

Hanes y b锚l hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.