大象传媒

Aneirin Talfan Davies

Aneirin Talfan Davies

Darlledwr, golygydd, llenor rhyddiaith ac arloeswr llenyddol.

Dyddiau cynnar yn y 大象传媒

Nid y lleiaf o gymwynasau Aneirin Talfan Davies i l锚n ein gwlad oedd ei nawdd hael i lu o awduron Cymraeg a Saesneg yn ystod y blynyddoedd a dreuliodd gyda'r 大象传媒 yn cynnwys y Dylan Thomas ifanc.

Ymunodd 芒'r Gorfforiaeth ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd a daeth yn Bennaeth Rhaglenni ym 1966. Yn rhinwedd y swydd honno comisynodd raglenni o naws llenyddol, gan ddefnyddio talentau'r rhan fwyaf o lenorion yn y ddwy iaith.

Dyn diwylliedig a charedig ydoedd, yn wlatgarwr mwyn 芒'r iaith yn agos at ei galon.

Ganwyd ef ym 1909 yn Felindre, Henllan, Sir Gaerfyrddin, yn fab i weinidog yr Hen Gorff, a chafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Tre-g诺yr wedi i'r teulu symud i Orseinon yn Sir Forgannwg ym 1911.

Un o'i frodyr oedd Alun Talfan Davies, y barnwr adnabyddus. Un o'i feibion yw Geraint Talfan Davies ac un o'i wyrion yw Rhodri Talfan Davies. Mae'r tri wedi dal swyddi fel Pennaethiaid 大象传媒 Cymru.

Ymlaen i Lundain

Gadawodd yr ysgol pan oedd yn bedair ar ddeg oed i fod yn brentis i fferyllydd a dyna sut yr ennillodd ei damaid am nifer o flynyddoedd.

Tra'n byw yn Llundain yn y tri degau, bu'n aelod o gapel Cymraeg y Methodistiaid Calfinaidd yn Charing Cross, lle ddeffrowyd ei diddordeb mewn llenyddiaeth.

Yn yr un cyfnod cychwynnodd y cylchgrawn Heddiw ar y cyd 芒'i frawd Alun. Dychwelodd i Abertawe ym 1938, gan agor busnes fferyllydd ei hun, ond yn ystod y rhyfel fe ddinistriwyd ei siop yn llwyr gan fom Almaenig, ac felly aeth yn 么l i Lundain i gychwyn ar yrfa newydd fel darlledwr.

Ar ddiwedd y rhyfel dychwelodd i Gaerdydd ac ymuno 芒 staff y 大象传媒. Erbyn hynny roedd Aneirin ap Talfan - yr enw a defnyddiai'n fynych ar gyfer ei weithgareddau llenyddol - wedi ymaelodi yn yr Eglwys yng Nghymru ac yn y man daeth yn un o leygwyr amlycaf yr eglwys honno.

Dawn Llenydda

Roedd yn awdur nifer sylweddol o lyfrau beirniadol a oedd yn eang eu gorwelion ac yn dreiddgar eu cynnwys, rhai ohonynt yn ymdrin 芒 llenyddiaeth yn yr iaith Saesneg.

Yn eu plith y mae Eliot, Pwshcin, Poe (1942) ac Yr Alltud (1944), yr unig lyfr hyd yn hyn i drafod gwaith yr athrylith Gwyddelig.

Ysgrifennodd hefyd am Dylan Thomas, a oedd yn gyfaill iddo, yn Dylan: Druid of the Broken Body (1964), un o'r lyfrau gorau am y bardd ac un a honnodd ei fod, yn y b么n, yn fardd crefyddol.

Roedd yn gyfaill mynwesol i David Jones hefyd, ac yn ei lyfr David Jones: Letters to a Friend (1979) maent yn trafod pethau Cymreig gydag arabedd.

Yn y Gymraeg roedd Aneirin Talfan Davies yn rhyddieithwr caboledig a swynol. Ceir ei ysgrifau yn y cyfrolau Sylwadau (1957), Astudio Byd (1967), Yr Etifeddiaeth Dda (1967) a Gyda Gwawr y Bore (1970), a'i feirniadaeth llenyddol yn Gw欧r Ll锚n (1948).

Ychydig o gerddi o'i eiddo sydd ar glawr ond ceir nifer ohonynt, cynnyrch meddwl cyfriniol, yn Y Ddau Lais (ar y cyd 芒 W.H.Rees, 1937) a Diannerch Erchwyn (1976).

Eto gyda ei frawd Alun, sefydlodd gwmni cyhoeddi Llyfrau'r Dryw (Christopher Davies), a'r misolyn Barn, ac fe ysgrifennodd yn gyson i'r cylchgrawn hwnnw(weithiau o dan ffugenwau) ar faterion llenyddol a diwinyddol.

I'r un wasg cyfrannodd ddwy gyfrol, ar Sir Gaerfyrddin a Sir Forgannwg, i'r gyfres Crwydro Cymru. Bu farw yn 1980.

Meic Stephens


Llyfrnodi gyda:

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Digwyddiadur

Beth sy' mlaen

Digwyddiadau mawr a bach yng Nghymru.

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.