大象传媒

Becky Brewerton

Becky Brewerton

Golffwraig ifanc sydd wedi cynrychioli Cymru ar lefel ryngwladol.

Dechrau Gyrfa

Daeth Rebecca Dawn Brewerton, y ferch o Lanelwy, yn chwaraewr golff proffesiynol ar 17 Tachwedd 2003, fis ar 么l ei phen-blwydd yn 21 oed.

Cyn hynny, roedd wedi cael gyrfa amatur lwyddiannus: roedd yn Bencampwraig Merched Iau Cymru 1997 ac 1988, yn Bencampwraig Merched Cymru 1999 a 2001, cynrychiolodd Wledydd Prydain ac Iwerddon yng Nghwpan Curtis 2000, Tlws Vagliano 2001 a 2003 ac ym Mhencampwriaeth T卯m Golff Amatur y Byd yn 2002.

Yna, ar 么l dod yn 13eg yn Ysgol Gymhwyso Cylchdaith Merched Ewrop yn 2003, dechreuodd ar ei thymor cyntaf fel chwaraewr proffesiynol yn 2004.

Ennill bri

Yn y tymor proffesiynol cyntaf hwnnw, daeth Brewerton yn ail yng nghystadleuaeth Chwaraewr Newydd y Flwyddyn yng Nghwpan Ryder Cymru.

Yn 2005, tra'n cynrychioli Cymru ar y cyd 芒 Becky Morgan o'r Fenni yng Nghwpan Golff Merched y Byd yn Ne Affrica cyrhaeddodd y chweched safle.

Llwyddodd y ddwy i wella eu perfformiad yn 2006 a chipio'r trydydd safle y tu 么l i Sweden a'r Alban. Daethant yn wythfed ym mhencampwriaeth 2007.

Yn 2007 hefyd ennillodd le yn nh卯m Ewrop i gystadlu yng nghwpan Solheim, sef fersiwn y merched o'r Cwpan Ryder. Hi ydy'r unig Gymraes i wneud hynny.

Taro deuddeg

Dechreuodd chwarae golff yn ei harddegau dan ddylanwad ei thad, Steve, a fu'n gadi iddi ym y tro olaf ers dechrau ei gyrfa yng Nghwpan Golff Merched y Byd 2007.

Roedd yn cymryd rhan am y pedwerydd tymor fel chwaraewr proffesiynol yng Nghylchdaith Merched Ewrop yn 2007 ac enillodd Bencampwriaeth Agored Lloegr y flwyddyn honno.

Enillodd hyn le iddi yng Nghwpan Solheim Ewrop, y golffwr Cymraeg cyntaf i chwarae. Daeth yn ail yng Nghystadleuaeth Personoliaeth Chwaraeon y 大象传媒 yn 2007 ac ennill y teitl 'Chwaraewr y Flwyddyn Towergate' yn yr un flwyddyn.

Daeth buddugoliaeth arall yn 2009 yn y De Espa帽a Femenino. Enillodd hwn iddi'r lle olaf yn yr Evian Masters yr wythnos ganlynol pan wnaeth hi orffen yn 13ydd, diweddglo uchaf i chwaraewr o'r LET. Cafodd ei dewis unwaith eto i chwarae yng Nghwpan Solheim ac hefyd i restr fer Personoliaeth Chwaraeon y 大象传媒 yn 2009 am yr eildro.

Yn Rhagfyr 2010, daeth yn ugeinfed yn Nhwrnament Olaf yr LPGA i ennill aelodaeth ar gyfer Taith LPGA yn 2011.


Llyfrnodi gyda:

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Digwyddiadur

Beth sy' mlaen

Digwyddiadau mawr a bach yng Nghymru.

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.